Mae Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH yn ddewis delfrydol i unrhyw un sydd â, neu a hoffai fod â, chyfrifoldebau rheolaeth amgylcheddol yn y gwaith.
Os oes gennych chi gyfrifoldebau rheolaeth amgylcheddol yn y gwaith, mae'r cymhwyster hwn sy'n berthnasol yn fyd-eang ar eich cyfer chi. Byddwch yn gallu helpu'ch sefydliad i reoli ei agweddau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol a chefnogi gweithredu a gwella systemau rheolaeth amgylcheddol effeithiol yn barhaus.
Drwy astudio a defnydd yn y gweithle, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
Rhaid i chi gael mynediad i gyfrifiadur/gliniadur i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn.
Mae'r cwrs hwn yn rhedeg 9am-4.30pm (tua) ar-lein dan arweiniad tiwtor.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi i chi wneud y canlynol:
Mae'r asesiadau'n canolbwyntio ar ddefnyddio gwybodaeth i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer y tasgau rheolaeth amgylcheddol a wynebir yn y gweithle.
Fformat asesu
Mae’r cymhwyster wedi’i rannu yn ddwy uned, a asesir yn y ffyrdd a ganlyn:
Uned EMC1 Rheolaeth amgylcheddol
Arholiad y bydd gennych 24 awr i'w lawrlwytho, ei gwblhau a'i gyflwyno
Bydd gofyn i ddysgwyr adolygu senario bywyd real ac ateb cwestiynau damcaniaethol ac ymarferol ar reoliaeth amgylcheddol.
Uned EMC2 Asesu agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig
Mae'r Asesiad Ymarferol hwn yn gofyn i chi asesu agweddau amgylcheddol ac effeithiau yn y gweithle o'ch dewis.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am reolaeth amgylcheddol i astudio'r cwrs hwn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.