Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant gyrrwr damcaniaethol ac ymarferol i alluogi’r dysgwr i ennill Trwydded Yrru LGV Categori C1.
Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n dymuno dod yn yrwyr Cerbydau Nwyddau Mawr llai h.y y rheini hyd at 7.5 tunnell o bwysau gros cerbyd.
Yna byddant yn gallu cael gwaith gyda Chwmnïau Logisteg sy’n arbenigo mewn Dosbarthu Trefol a Chludwyr Parseli Cyflym.
Nid yn unig y mae’r Hyfforddai yn ennill y cymhwyster i yrru cerbydau o’r fath ond hefyd yn dysgu am Ddiogelwch ar y Ffyrdd, ystod y Sector Logisteg a mewnwelediad i rôl Gyrrwr LGV.
Cyfanswm yr amser y bydd angen i chi ei ymrwymo i’r rhaglen fydd tua 80 awr, dangosir dadansoddiad yn y Tab Addysgu ac Asesu.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae'r pynciau dan sylw fel a ganlyn:
• Gwiriadau cerbyd cyn gyrru
• Rheoliadau Oriau Gyrwyr
• Tacograffau
• Cyfraith Traffig Ffyrdd
• Math o Gerbyd
• Archwiliadau a Chynnal a Chadw
• Diogelwch llwyth
• Canfyddiad o berygl
Byddwch yn hunan-astudio ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Cynhelir pob apwyntiad a hyfforddiant arall yn ystod y dydd rhwng dydd Llun-Gwener.
Cyfanswm Amser: tua 80 awr
Byddwch yn hunan-astudio ac yn dysgu o bell yn eich amser eich hun drwy borth astudio ar-lein.
Dysgu o Bell: 40 awr
Hyfforddiant ymarferol: 40 awr
Prawf theori a phrawf gyrru ymarferol.
Mae'n ofynnol eich bod yn gallu defnyddio cyfrifiadur neu liniadur i gwblhau'r hyfforddiant hwn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.