Wedi'i gyflwyno dros 6 diwrnod, mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at bersonél profiadol sy'n gweithio yn y diwydiant trydanol, sy'n awyddus i ennill dealltwriaeth o Ardystio a Dilysu Cychwynnol ar gyfer Gosodiadau Trydanol ynghyd ag Adroddiadau Cyflwr Gosodiadau Trydanol.
Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cyllid PLA, ewch i daro golwg ar y cyrsiau y gallwch eu hariannu’n bersonol yma
Un arholiad amlddewis ar-lein a dau asesiad arolygu ac asesu ymarferol.
Mae dysg cyn y cwrs yn hanfodol. Rhaid ichi feddu ar wybodaeth ymarferol o BS7671 A+22 a Nodyn Cyfarwyddyd 3.
Ffi Cwrs: £0.00
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at drydanwyr cymwys/goruchwylwyr sydd â phrofiad o arolygu a phrofi ac ardystio gosodiadau trydanol, a dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster yn fersiwn bresennol BS7671 a gwybodaeth ymarferol o nodyn 3 Canllawiau IET.
Cyn cael eich derbyn ar y cwrs, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad. N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosodiadau Trydanol neu ardystiad cynharach cyfwerth sy’n cynnwys Archwilio a Phrofi. Ardystiad cymhwysedd Rhan P cydnabyddedig sy'n cynnwys Archwilio a Phrofi, a chymhwyster cyfredol Gofynion Gosodiadau Trydanol BS 7671. Cerdyn Aur ECS cyfredol, Cerdyn Trydanwr Cymeradwy neu Drydanwr JIB.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyrsiau Systemau Ffotofoltäig Solar Domestig a Systemau Storio Ynni Trydan Lefel 3.