Bwriad y cwrs deuddydd hwn yw cefnogi rheolwyr a goruchwylwyr o unrhyw sector diwydiant/busnes i ddeall goblygiadau strategol a gweithredol cynaliadwyedd amgylcheddol iddynt hwy, eu tîm a'u hadran. Mae'n eich galluogi i gyfrannu at well cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich sefydliad ac mae'n ddelfrydol i wella sgiliau eich tîm a'r rhai sy'n goruchwylio amcanion gweithredol yn gyflym.
Mae'r cwrs 2 ddiwrnod hwn yn cael ei arwain gan diwtor mewn ystafell ddosbarth ar-lein ac mae’n rhedeg 9am-4.30pm.
Mae Asesiad Aml-ddewis 20 cwestiwn ar-lein.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae'r cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol IEMA i Reolwyr yn cynnwys y canlynol:
Cyflwynir y cwrs 2 ddiwrnod hwn drwy ystafell ddosbarth ar-lein dan arweiniad tiwtor. Nid oes asesiad ffurfiol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.