• Systemau Gosodwr Systemau Pwmp Gwres BPEC
• Technoleg Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer
• Technoleg Pwmp Gwres o'r Ddaear
Mae’r cwrs 4 diwrnod hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar osodwyr er mwyn gosod pympiau gwres yn gywir.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio gyda’r bwriad o fodloni gofyniad y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a grwpiau gweithio diwydiant.
Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cyllid PLA, ewch i daro golwg ar y cyrsiau y gallwch eu hariannu’n bersonol yma.
Mae'r asesiadau ar gyfer y cwrs hyfforddiant yn cynnwys arholiad amlddewis ar-lein ac asesiad ymarferol mewn amgylchedd efelychol.
Rhaid ichi ddod â 2x llun pasbort a'ch tystysgrifau cymwysterau ar ddiwrnod cyntaf y cwrs er mwyn sefyll asesiadau'r cwrs hwn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cwrs Systemau Dŵr Poeth Domestig Thermol Solar