Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Pympiau Gwres

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni ar gyfer y dyddiadau
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Systemau Gosodwr Systemau Pwmp Gwres BPEC
Technoleg Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer
Technoleg Pwmp Gwres o'r Ddaear                                         

Mae’r cwrs tridiau hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar osodwyr er mwyn gosod pympiau gwres yn gywir.   Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio gyda’r bwriad o fodloni gofyniad y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a grwpiau gweithio diwydiant

Efallai eich bod yn gymwys i astudio’r cwrs am ddim drwy PLA - gweler yma

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r asesiadau ar gyfer y cwrs hyfforddiant yn cynnwys arholiad amlddewis ar-lein ac asesiad ymarferol mewn amgylchedd efelychol.                                                     

Rhaid ichi ddod â 2x llun pasbort a'ch tystysgrifau cymwysterau ar ddiwrnod cyntaf y cwrs er mwyn sefyll asesiadau'r cwrs hwn.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £410.30

Ffi Arholiad : £65.50

Gofynion mynediad

Dylai fod gan hyfforddeion o leiaf:

• N/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymwaith neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu

• N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Domestig) neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu

• N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiadau Diwydiannol a Masnachol) neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu

• N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol Olew neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu

• N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Nwy neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu

• Gosodwyr gwresogi gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad yn gosod systemau gwres canolog gwlyb, a ddangosir naill ai gan ardystiad cyrsiau gwneuthurwr neu Gofrestr Diogelwch Nwy, OFTEC, MCS neu gofrestriad HETAS

AC os nad yw wedi'i gynnwys yn y cymhwyster uchod NID yw Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr tystysgrifau technegol annibynnol/Cymwysterau Cysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) (yn seiliedig ar gymhwysedd) yn dderbyniol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni ar gyfer y dyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

32 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

RTCC3PX4
L3

Cymhwyster

BPEC Level 3 Award in the Installation and Maintenance of Heat Pumps Systems (No

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Cwrs Systemau Dŵr Poeth Domestig Thermol Solar

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE