CompTia Security +

L3 Lefel 3
Rhan Amser
6 Tachwedd 2025 — 9 Ebrill 2026
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

CompTIA yw un o'r prif gymwysterau gwerthwr niwtral. Mae Security+ yn dilysu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gyflawni swyddogaeth diogelwch craidd.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau perfformio a gwybodaeth mewn:

  1. Bygythiadau, ymosodiadau a gwendidau
  2. Technolegau ac Offer
  3. Pensaernïaeth a dyluniad
  4. Rheoli hunaniaeth a mynediad
  5. Rheoli risg
  6. Cryptograffeg a Seilwaith Allwedd Gyhoeddus (PKI)

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn barod i sefyll yr arholiad CompTIA Security+. Nid ydym yn ganolfan brawf ar hyn o bryd ond byddwn yn eich helpu i ddewis canolfan brawf ac yn ad-dalu cost 1 arholiad gwerth hyd at £288 ar ôl cael derbynneb. Gellir addysgu’r cwrs hwn gyda thiwtor o bell neu yn yr ystafell ddosbarth. Os fyddwch chi’n dewis addysgu o bell ni fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs hwn. Fodd bynnag, byddwch angen cyfrifiadur sy'n gweithio gyda seinyddion a mynediad at y Rhyngrwyd. Byddai meicroffon yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Tachwedd 2025

Dyddiad gorffen

9 Ebrill 2026

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

ITCC3P21
L3

Cymhwyster

CompTia Security +

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).