Fel gweithiwr proffesiynol ag ardystiad CompTIA Network+, byddwch yn gallu datblygu gyrfa mewn seilwaith TG, bod yn gyfrifol am ddatrys problemau, cyflunio, a rheoli rhwydweithiau sefydliadol.
Mae’r CompTIA CASP+ yn rhaglen e-ddysgu gynhwysfawr sy’n cynnwys gwersi a gweithgareddau ymarferol y gallwch ail-ymweld â hwy mor aml ag y bydd ei angen.
Mae’r ardystiad yn eich darparu â sgiliau sydd mewn galw ymysg cyflogwyr, gan eich helpu i ddechrau eich gyrfa TG ar y droed flaen.
Mae’r rhaglen hon yn gofyn am oddeutu 37 awr, gydag argaeledd hyblyg yn unol â phatrymau gwaith personol.
Bydd gan gynrychiolwyr 6 mis o’r dyddiad ymrestru i gwblhau'r rhaglen. Trefnir dyddiadau cwrs yn uniongyrchol gydag ALS Training unwaith y bydd cyllid wedi cael ei gymeradwyo.
Maes Llafur Swyddogol CompTIA Network+
Mae’r cwrs e-ddysgu CompTIA Network+ Swyddogol yn cynnwys Cysyniadau Rhwydweithio, Seilwaith, Gweithrediadau Rhwydwaith, Diogelwch Rhwydwaith a Datrys Problemau Rhwydwaith, ac Offer.
Maes Llafur Network+
Labordai Ymarferol Ar-lein
Manylion Arholiad CompTIA Network+
Arholiad: Cod N10-009
Mae CompTIA Network+ N10-000 wedi’i ddiweddaru ac aildrefnu er mwyn ymdrin â thechnolegau rhwydweithio a chynnwys nifer o feysydd ehangach. Mae CompTIA Network+ yn ardystio eich bod yn meddu ar y sgiliau technegol angenrheidiol er mwyn sefydlu a chynnal rhwydweithiau busnes hanfodol yn ddiogel, a hefyd datrys problemau.
Fformat yr Arholiad - Amlddewis, a seiliedig ar berfformiad.
Nifer y Cwestiynau - Uchafswm o 90.
Hyd - 90 Munud.
Mae eich ymrestriad yn cynnwys labordai ymarfer.
Marc Pasio - 720/900 (80%).
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.