Technegydd Cymorth Seiberddiogelwch Cisco

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am ddyddiadau
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Ymgymerwch â’r camau cyntaf i fentro i fyd seiberddiogelwch, a hynny gyda’r cwrs Technegydd Cymorth Seiberddiogelwch Cisco.  Byddwch yn dysgu am egwyddorion diogelwch craidd, cysyniadau diogelwch rhwydwaith a phwynt terfynol, asesiad bygythiadau, asesiad risg, delio â digwyddiadau, a rhagor, mewn amgylchedd labordy gydag ymarferwyr o’r diwydiant. Os ydych awydd mentro i CyberOps neu White Hat, bydd y cwrs Technegydd Cymorth Seiberddiogelwch Cisco yn eich darparu gyda phopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer dechrau, datblygu neu newid eich gyrfa. 

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Diffinio Seiberddiogelwch

  • Datblygiadau allweddol mewn Seiberddiogelwch
  • Cymharu Technoleg Gwybodaeth â Thechnoleg Weithredol
  • Ymyraethau a Thoriadau Seiber
  • Effeithiau’r amrywiaeth o fethiannau diogelwch

Rhwydweithiau ac Ymosodiadau Seiber

  • Diogelwch rhwydwaith
  • Y mathau o Ymosodiadau Seiber, gan gynnwys Maleiswedd, Gwe-rwydo a Meddalwedd Wystlo.
  • Ymateb Cyn, Yn ystod ac Ar ôl y Digwyddiad
  • Dewis offer seiberddiogelwch

Rheoli Risg Seiber

  • Cymharu Bygythiadau â Risg
  • Rheoli Risg
  • Datblygu cynlluniau wrth gefn
  • Gweithredu cynlluniau adfer Trychineb

Rheolaeth Sefydliadol

  • Llywodraethu Gwybodaeth a Thorri Rheolau Data
  • Rheoli Mynediad, gan gynnwys Polisïau Cyfrinair a Dilysu Aml-Ffactor (MFA)
  • Rheoli dyfais, gan gynnwys diweddariadau a Diwedd Oes (EOL)

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am ddyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

PLAIUGP01
L3

Cymhwyster

Cisco Certified Support Technician CCST Cybersecurity PLD