Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol

L4 Lefel 4
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am Ddyddiadau
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Tystysgrif CIM Lefel 4 mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol wedi cael ei datblygu gydag ymchwil eang sy'n cael ei arwain gan y cyflogwr i sicrhau ei berthnasedd wrth fwyhau cyfleoedd i symud ymlaen mewn gyrfa o fewn y sectorau marchnata proffesiynol a digidol. 

Gellir rhannu cymhwyster CIM a'i astudio fel modiwlau unigol ar gyflymder sy'n cael ei bennu gan y myfyriwr. Mae hyn yn darparu dull hyblyg a fforddiadwy i fyfyrwyr allu cyflawni cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan ddiwydiant ac a fydd yn helpu i sicrhau bod ganddynt yr holl sgiliau a'r profiad sy'n ofynnol ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant marchnata.  

Mae'r cymhwyster hwn yn hyblyg er mwyn galluogi i chi ddatblygu gwybodaeth o fewn eich maes dewisol, megis Traweffaith Marchnata, Marchnata Cyfrifol, Ymgyrchoedd Cynlluniedig wedi'i Gynllunio, Marchnata Cynnwys, Gweithrediad Peiriant Chwilio, MarTech, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Beth yw CIM?

Mae'r CIM wedi cefnogi'r sector marchnata am dros 100 mlynedd. Gyda thros 20,000 o aelodau mewn dros 100 o wledydd, mae'r CIM yn ymdrechu i sicrhau bod arweinwyr busnes a rhai sy'n ffurfio barn yn cydnabod y cyfraniad positif y gall marchnata proffesiynol ei wneud i'w sefydliadau, yr economi a'r gymdeithas yn ehangach. Rydym yn cefnogi, datblygu a chynrychioli marchnatwyr, sefydliadau a'r proffesiwn ar hyd a lled y byd. Mae ein gallu i ddyfarnu statws Marchnatwr Siartredig yn cydnabod ymrwymiad marchnatwr i barhau i fod yn gyfredol a chadw o fewn Cod Ymddygiad proffesiynol. Hynny, tra mae ein hystod amrywiol o gyrsiau hyfforddi a chymwysterau byd enwog yn galluogi marchnatwyr modern i ffynnu yn eu rolau ac i gyflawni llwyddiant hirdymor i fusnesau. Dysgwch fwy am CIM ar y wefan isod www.cim.co.uk


Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Mae cymwysterau CIM Lefel 4 wedi eu datblygu ar gyfer dysgwyr sydd am sefydlu'r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth er mwyn gallu cyflawni mewn rôl 'Prif Weithredwr Marchnata' ac i ymgymryd â rôl farchnata lwyddiannus o fewn y gweithle.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Traweffaith Marchnata

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar rôl marchnata o fewn y sefydliad a'r prif ganfyddiadau sy'n sail i weithgareddau'r marchnatwr. Byddwch yn archwilio'r amgylchedd marchnata, ymddygiad cwsmeriaid yn yr oes ddigidol, ymchwil i'r farchnad a phroses gynllunio marchnata. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau marchnata a fframwaith cynllunio bwriadus er mwyn sicrhau effeithiolrwydd marchnata,

Marchnata Cyfrifol*

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar farchnata cyfrifol fel rhywbeth sy'n datblygu i fod o'r pwys mwyaf wrth i heriau cymdeithasol ac amgylcheddol dyfu. Mae yna graffu cynyddol ar ymddygiad brand o safbwynt amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd, gan arwain at ddewisiadau mwy dethol gan ddefnyddwyr. Mae marchnata yn wynebu angen cynyddol i ddeall a sicrhau arferion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, blaenoriaethu tryloywder a gonestrwydd er mwyn ennill ymddiriedaeth a bod yn fwy ystyriol o ran eu negeseuon, eu sianeli a'u tactegau.

Cynllunio Ymgyrchoedd Integredig*

Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i helpu datblygu dealltwriaeth o'r dirwedd marchnata sy'n newid yn gyflym. Bydd ymgeiswyr yn dysgu am gysyniadau craidd marchnata ac yn archwilio arloesi digidol. Bydd ymgeiswyr yn ennill dealltwriaeth o sut mae cynnwys yn chwarae rhan hanfodol yng nghylch bywyd y cwsmer a sut mae cynulleidfaoedd yn rhyngweithio gyda'r cyfryngau digidol a thraddodiadol fel ei gilydd. Yn olaf, bydd y modiwl hwn yn dysgu ymgeiswyr sut i greu ymgyrchoedd marchnata wedi integreiddio ar draws amrywiol sianeli, ar-lein ac all-lein, a sut i fesur eu heffeithiolrwydd.

Marchnata Cynnwys*

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar farchnata cynnwys a'i rôl hanfodol yn cyflawni ymgyrchoedd marchnata digidol effeithiol. Mae'r modiwl hwn yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau er mwyn creu cynnwys yn llwyddiannus i gefnogi nodau marchnata. Byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio gwahanol fformatau cynnwys o fewn ymgyrchoedd i gefnogi taith y cwsmer yn ogystal â'r traweffaith y gall technoleg sy'n datblygu ei gael ar gynhyrchu cynnwys. Byddwch yn ennill y sgiliau i gynhyrchu cynllun cynnwys addas i gefnogi mentrau sefydliadol.

Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata*

Mae'r modiwl hwn yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau er mwyn datblygu gweithgareddau marchnata cyfryngau cymdeithasol yn llwyddiannus. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso ystod o sianeli cyfryngau cymdeithasol ac i gynhyrchu cynnwys addas er mwyn gwella gweithgareddau digidol sefydliad. Byddwch yn ennill y sgiliau er mwyn cynhyrchu cynllun cyfryngau cymdeithasol effeithiol a mesur ei ddeilliannau.

Martech*

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar dechnoleg marchnata, neu 'Martech', sydd nawr yn hanfodol er mwyn hwyluso a chyflawni gweithgareddau marchnata. Bydd yn darparu gwybodaeth am bwysigrwydd 'Martech' a sut i'w gymhwyso, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial o fewn sefydliadau. Byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio 'Martech' ar draws taith y cwsmer er mwyn cefnogi ymgyrchoedd sy'n cael eu talu amdanynt, a gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol er mwyn meithrin cysylltiadau hirdymor. Byddwch yn ennill y sgiliau er mwyn dadansoddi allbynnau dadansoddeg y we yn llwyddiannus a gwneud argymhellion addas ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn ennill y sgiliau er mwyn dadansoddi allbynnau dadansoddeg y we yn llwyddiannus.

Optimeiddio Peiriannau Chwilio*

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd marchnata peiriannau chwilio fel rhan o'u gweithgareddau marchnata digidol. Byddwch yn dysgu'r prif ffactorau o ran llwyddiant ar gyfer optimeiddio Peiriannau Chwilio yn ogystal â sut i greu ymgyrchoedd chwilio wedi'u talu amdanynt effeithiol i gyflawni nodau marchnata.

*Er mwyn sicrhau hyblygrwydd fydd yn cyd-fynd â'ch anghenion dysgu, mae yna ddau lwybr dysgu y gallwch eu dilyn o'r dewis o unedau o fewn y cymhwyster hwn. O'r herwydd, ni fydd gofyn i chi gwblhau'r cyfan o'r unedau hyn yn llwyddiannus er mwyn cyflawni'r cymhwyster. 

Dulliau Addysgu ac Asesu

Sut y byddwch yn dysgu?

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros 12 mis, a bydd 4 x 4 gweithdy ar-lein ym mhob uned, sesiynau astudio, cefnogaeth ddysgu gan diwtor personol a 3 awr o astudio dysgu annibynnol yr wythnos. 

Sut y byddwch yn cael eich asesu?

Profion aml-ddewis ar-lein fel y mynnwch.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am Ddyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSCIMPDM
L4

Cymhwyster

CIM Certificate in Professional & Digital Marketing (PLA)

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein