Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs AAT (Association of Accounting Technicians) lefel uwch hwn yn gymhwyster cadw cyfrifon lefel ganolig, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes ym maes cyfrifeg. Cyflwynir y cwrs hyblyg hwn mewn partneriaeth â Mindful Education, ac mae'n cyfuno dysgu ar-lein â gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth. 

Noder: Mae hwn yn gwrs dysgu cyfunol (ar-lein/ar y cwmpws) gyda’r gwersi ar-lein yn cael eu cyflawni pan mae hynny’n gyfleus i’r dysgwr a’r sesiynau ar y campws yn cael eu cynnal yn wythnosol ar ddyddiau Mawrth rhwng 5:30pm a 7:30pm.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster hwn yn mynd i'r afael ag ystod o dasgau cadw cofnodion cymhleth. Byddwch yn dysgu ac yn meistroli prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cadw cyfrifon.  Unedau Astudio

Mae'r cwrs Lefel 3 yn ymdrin ag ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Cadw Cyfrifon Uwch
  • Treth Anuniongyrchol
  • Paratoi Cyfrifon Terfynol.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu busnes a dysgu gydol oes, ac yn cymhwyso'r hyn rydych yn ei ddysgu ar y cwrs i gyd-destun ehangach y diwydiant.

Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Mindful Education i gyflwyno'r cwrs hwn drwy gyfrwng ein model Ar-lein ac Ar y Campws. 

Mae darlithoedd fideo ar-lein ar gael ar gais, a gallwch eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur, sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae bob gwers yn para tua 45 munud ac yn cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae ymarferion, astudiaethau achos rhyngweithiol ac offer dadansoddi yn helpu i gyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach.

Ar y campws rhithiol, byddwch yn cael y fantais o gael dosbarthiadau rhithiol rheolaidd - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noswaith bob wythnos. Bydd tiwtor coleg profiadol yn trafod ac yn atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich astudiaethau ar-lein a bydd ar gael i ddarparu arweiniad ynghylch cynnydd ac asesu. Bydd trafodaethau a dadleuon gyda chyd-fyfyrwyr o gymorth ichi gymhwyso theorïau i sefyllfaoedd rydych yn eu hwynebu yn y gweithle.   Nodyn ynghylch y Coronafeirws (COVID-19): Oherwydd natur ein cyrsiau Ar-lein ac Ar y Campws, gyda chysyniadau allweddol yn cael eu haddysgu ar-lein drwy ddarlithoedd fideo safon uchel, gall myfyrwyr barhau'n ddidrafferth â'u hastudiaethau gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Yn achos rhai o'r gwersi rheolaidd 'Ar y Campws', mae'n bosib cynnal sesiynau 'dosbarth rhithiol' sy'n cael eu harwain gan diwtoriaid coleg yn eu lle. Mae'n bosib addasu'r dull hyblyg hwn yn rhwydd yn unol â chanllawiau'r llywodraeth a pholisïau'r coleg.   Asesir y cwrs hwn drwy arholiadau ar y cyfrifiadur ac asesiadau uned.

Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst


Ffioedd Cofrestru 2023/24 

Lefel 3 Cadw Cyfrifon = £91

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £125.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £500.00

Gofynion mynediad

Rhaid bod gennych wybodaeth gadarn o egwyddorion cadw llyfrau i gyflawni'r rhaglen AAT Lefel 3. Mae cyflawni Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cadw Llyfrau neu Dystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn hanfodol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Efallai y bydd myfyrwyr sy'n cwblhau Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon yn dymuno symud ymlaen i gwblhau Diploma Uwch lawn yr AAT mewn Cyfrifeg. Os byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau yn y ffordd hon, bydd eich cyflawniadau yn y cymhwyster Cadw Cyfrifon yn cael eu trosglwyddo i'r cymhwyster Cyfrifeg hirach.  Os byddwch yn cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gallwch wneud cais am aelodaeth gyswllt cadw cyfrifon o'r AAT (AATQB).  Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu meithrin drwy'r cymhwyster hwn yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer swyddi megis Swyddog Cyllid, Cyfrifydd Cynorthwyol a Cheidwad Cyfrifon. Byddwch hefyd yn gymwys i gael statws Ceidwad Cyfrifon yr AAT (AATQB), sy'n rhoi'r dewis ichi i weithio fel ceidwad cyfrifon llawrydd.

Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon

Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon

Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon

Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE