Mae'r uned hon yn datblygu dealltwriaeth eang o rwydweithio cyfrifiadur modern, an gynnwys strwythurau rhwydweithiau, protocolau, safonau ac egwyddorion diogelwch. Bydd dysgwyr yn archwilio sut mae technolegau rhwydweithio'n galluogi cyfathrebu o fewn Rhwydweithiau Ardal Leol, Rhwydweithiau Ardal Eang a systemau rhyng-gysylltiedig ar raddfa fawr. Drwy weithgareddau ymarferol, bydd dysgwyr yn cyflunio, gosod, a datrys problemau caledwedd rhwydweithio, gan ennill profiad ymarferol o weithrediad rhwydweithio. Mae'r uned hefyd yn archwilio rhwydweithio a methodolegau Protocol Rhyngrwyd (IP) sy'n cefnogi trosglwyddo data ar draws rhwydweithiau. Drwy ei chwblhau, bydd gan ddysgwyr y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn deall a chefnogi amgylcheddau rhwydweithio cyfoes.
Mae gan y modiwl hwn yr amcanion dysgu canlynol:
Ffi Arholiad : £55.00
Ffi Cofrestru: £40.00
Ffi Cwrs: £580.00
Bydd ceisiadau i'r cwrs yn cael eu hystyried yn unigol. Manylir ar y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Mae cyfuniadau o'r cymwysterau isod yn dderbyniol a gall cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru fod yn dderbyniol hefyd.
Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol
Mynediad Nodweddiadol Nodwedd AU
Efallai y bydd cyfweliad llwyddiannus hefyd yn ofyniad ar gyfer mynediad i'r cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi'r cymhwyster hwn gallwch symud ymlaen i HNC, HND, Gradd neu bynciau sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg (yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Brifysgol).