Mae ein cwrs Cyfrifiadura gyda Seiberddiogelwch yn Ddiploma Estynedig BTEC Lefel 3 dwy flynedd mewn Cyfrifiadura ac mae'n gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch. Bydd myfyrwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn naill ai'n mynd ymlaen i astudio cymhwyster cyfrifiadura neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â TG yn y Brifysgol neu i gael gwaith. Mae gan y cwrs hwn bwyslais ar seiberddiogelwch.
Mae hwn yn faes twf ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth wrth i nifer y dyfeisiau TG barhau i dyfu, y galw am staff sy'n gallu rheoli amgylchedd rhwydweithio yn tyfu, a bydd yn parhau i gynyddu. Mae sgiliau'n amrywio o adnabod a disodli cydrannau sylfaenol cyfrifiadur personol i gysylltu rhwydwaith o gyfrifiaduron o fewn cwmni, gan alluogi busnesau i gyfathrebu â'r byd a gweithredu ar raddfa fyd-eang. Mae diogelwch, creu a rheoli amgylcheddau TG diogel yn elfennau hanfodol i adeiladu busnes llwyddiannus ac mae'n rhaid i gwmnïau ddatblygu strategaethau i ddileu firysau ac atal hacio lle bynnag y bo modd. Mae rhwydweithio hefyd yn faes cyffrous o'r proffesiwn cyfrifiadura, ac mae'n cynnig cyfleoedd gyrfa pleserus a heriol.
Yn y Diploma Estynedig hwn mewn Cyfrifiadura byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2
5 TGAU ar raddau A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) neu Deilyngdod mewn cymhwyster TG Lefel 2 (h.y. TG BTEC Lefel 2) a TGAU gradd A* - C mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) Bydd myfyrwyr rhyngwladol angen sgôr IELTS o 6.5 neu uwch.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i'r Diploma Estynedig mewn Cyfrifiadureg. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant.