Cyfrifiadura gyda Seiberddiogelwch

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Cyfrifiadura gyda Seiberddiogelwch yn Ddiploma Estynedig BTEC Lefel 3 dwy flynedd mewn Cyfrifiadura ac mae'n gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch. Bydd myfyrwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn naill ai'n mynd ymlaen i astudio cymhwyster cyfrifiadura neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â TG yn y Brifysgol neu i gael gwaith.  Mae gan y cwrs hwn bwyslais ar seiberddiogelwch.
Mae hwn yn faes twf ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth wrth i nifer y dyfeisiau TG barhau i dyfu, y galw am staff sy'n gallu rheoli amgylchedd rhwydweithio yn tyfu, a bydd yn parhau i gynyddu. Mae sgiliau'n amrywio o adnabod a disodli cydrannau sylfaenol cyfrifiadur personol i gysylltu rhwydwaith o gyfrifiaduron o fewn cwmni, gan alluogi busnesau i gyfathrebu â'r byd a gweithredu ar raddfa fyd-eang. Mae diogelwch, creu a rheoli amgylcheddau TG diogel yn elfennau hanfodol i adeiladu busnes llwyddiannus ac mae'n rhaid i gwmnïau ddatblygu strategaethau i ddileu firysau ac atal hacio lle bynnag y bo modd.  Mae rhwydweithio hefyd yn faes cyffrous o'r proffesiwn cyfrifiadura, ac mae'n cynnig cyfleoedd gyrfa pleserus a heriol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn y Diploma Estynedig hwn mewn Cyfrifiadura byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:
Blwyddyn 1

  • Egwyddorion Cyfrifiadureg – rhaglennu
  • Diogelwch ac Amgryptiad Systemau TG
  • Datblygu Cronfa Ddata Perthynol
  • Dadansoddi a Dylunio Systemau

Blwyddyn 2

  • Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
  • Rhwydweithio Cyfrifiadurol
  • Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadura
  • Rhithwirio

Gofynion mynediad

5 TGAU ar raddau A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) neu Deilyngdod mewn cymhwyster TG Lefel 2 (h.y. TG BTEC Lefel 2) a TGAU gradd A* - C mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) Bydd myfyrwyr rhyngwladol angen sgôr IELTS o 6.5 neu uwch.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ITCR3F11
L3

Cymhwyster

Computing - National Foundation Diploma

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”

Heather Curtis Rich
Astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i'r Diploma Estynedig mewn Cyfrifiadureg. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ