Tystysgrif Proffesiynol (ProfCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) yn eich cymhwyso i ddysgu yn y sector addysgu bellach, addysgu oedolion ac addysg alwedigaethol.  Mae’n gymhwyster dysgu llawn sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac sydd wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n anelu i ddysgu pwnc galwedigaethol mewn meysydd megis Gwallt a Harddwch, Gwaith Adeiladau a Chynnal a Chadw Cerbydau.

Byddwch angen cymhwyster galwedigaethol lefel 3 a phrofiad perthnasol o fewn y diwydiant/sector er mwyn ymuno gyda’r cwrs. Unwaith y byddwch gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddysgu, addysgu ac asesu yn eich pwnc.Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt leoliad addysgu cyn y gallant ddechrau ar y rhaglen. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer dysgu o fewn y sector Ôl-orfodol ac astudio pellach. Mae’n cynnwys chwe modiwl 20 credyd sy’n cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol a’u hasesu drwy gyfrwng aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol. 

Blwyddyn 1 
Cynllunio ar gyfer Addysgu - Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno theori addysgu a dysgu a chaiff ei asesu drwy sesiwn dysgu gan gymheiriad 30 munud. 
Asesu ar gyfer Dysgu - Mae’r modiwl hwn yn cefnogi ymgeiswyr i ddeall a bodloni anghenion dysgwyr a chaiff ei asesu ar ddefnydd creadigol ac adolygiad technoleg fel dull o asesu.  
Datblygu Ymarfer Proffesiynol - Mae’r modiwl hwn yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnwys:  
Cynllunio a rheoli 50 awr o sesiynau a ddysgir 
Arsylwi ar weithwyr proffesiynol eraill (20 awr) 
Adfyfyrio, gwerthuso ymarfer a chynllunio gweithredu ar gyfer datblygiad proffesiynol yn rheolaidd 
Tair sesiwn dysgu wedi’u hasesu 
Cyflwyno adfyfyriad ar ddigwyddiad critigol 

Blwyddyn 2 
Ymchwil yn Seiliedig ar Ymarfer - Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i ymgysylltu gyda gwaith ymchwil gweithredol gyda ffocws ar faes o fewn dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl hwn yn cael ei asesu drwy gynnig ymchwil ysgrifenedig a chyflwyniad ac adroddiad am ganfyddiadau ymchwil.    
Llythrennedd ar gyfer Dysgu - Mae’r modiwl hwn yn archwilio syniadau am bob math o lythrennedd (digidol, gweledol, graffigol, ysgrifenedig ac ati) mewn bywyd bob dydd ac o fewn addysgu a dysgu. Bydd y modiwl yn cael ei asesu drwy arddangosfa hwyliog a rhyngweithiol. 
Ymestyn Ymarfer Proffesiynol -Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y dysgu proffesiynol o fewn Datblygu Ymarfer Proffesiynol, gan edrych y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth tuag at y dirwedd addysg ôl-orfodol. 

Mae’r modiwl hwn yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnwys:  
Cynllunio a rheoli 50 awr o sesiynau a ddysgir 
Arsylwi ar weithwyr proffesiynol eraill (20 awr) 
Adfyfyrio, gwerthuso ymarfer a chynllunio gweithredu ar gyfer datblygiad proffesiynol yn rheolaidd 
Tair sesiwn dysgu wedi’u hasesu 
Vlog yn dadansoddi a gosod polisi 
Ymarfer Addysgu 

Mae ymarfer dysgu o fewn y rôl ddysgu llawn wrth galon y cymhwyster (50 awr y flwyddyn), gan ddarparu’r sylfaeni ar gyfer dysgu ym mhob modiwl drwy gydol y cwrs. Mae arsylwadau rheolaidd o ymarferwyr eraill yn datblygu dealltwriaeth o ddysgu effeithiol a strategaethau addysgu ac asesu, ac mae’n darparu cyfle i archwilio’r sefydliad sy’n cynnig lleoliad yn ehangach. 

Am wybodaeth ynghylch ffïoedd a chefnogaeth ariannol ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch Rhan Amser cliciwch yma. 

Mae’r asesiad yn waith cwrs 100%, gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol, yn ogystal â gwaith ysgrifenedig.

Amseroedd cwrs

Caerdydd - Dydd Iau - 2.00pm - 7.30pm
Y Barri - Dydd Mawrth - 2.00pm - 7.30pm

Ffïoedd cwrs

Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1: £2,835.00

Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 2: £2,835.00

Gofynion mynediad

Cymhwyster Lefel 3 yn y pwnc y byddwch yn ei addysgu. Ar gyfer pynciau galwedigaethol mae hefyd yn bwysig cael o leiaf 4 mlynedd o brofiad diwydiannol. Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn sicrhau lleoliad addysgu cyn iddynt ddechrau’r cwrs. Rhaid i hyn fod o leiaf 50 o oriau addysgu’r flwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae angen 20 awr y flwyddyn o gyfnod arsylwi tiwtor profiadol ar ymgeiswyr. Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf dylech allu arddangos o leiaf lefel IELTS 6.5 neu gyfwerth (sgôr isafswm o 5.5 ym mhob band). Bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) o’r Rhestr Gweithlu Plant a Gwahardd Plant arnoch hefyd ynghyd â thanysgrifiad i’r gwasanaeth Adnewyddu DBS.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mae’r cwrs yn darparu’r cymhwyster angenrheidiol ar gyfer gyrfa o fewn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, gan gynnwys Addysg Bellach (AB), Darparwyr Hyfforddiant, Dysgu Oedolion a Chymunedol a Dysgu’n Seiliedig ar Waith.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ