Y Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - UG

cwrs yn llawn
L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2019 — 12 Mehefin 2020
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae'r cwrs hwn yn daith archwiliadol trwy systemau gwleidyddol Prydain a’r Unol Daleithiau, gyda phwyslais ar eich dealltwriaeth o wleidyddiaeth, yn hytrach na dysgu gwleidyddiaeth. Trwy gydol y rhaglen, anogir disgyblion i archwilio gwaith, prosesau a fframweithiau yr amrywiol sefydliadau, unigolion a grwpiau gwleidyddol sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth y ddwy wlad. Efallai y bydd yn bosibl i ddysgwyr ddilyn y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae dwy uned i'r cwrs sy'n cynnwys pynciau megis etholiadau, grwpiau ymgyrchu, Cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, y farnwriaeth ac ati.

Uned 1: Pobl a Gwleidyddiaeth (arholiad ysgrifenedig o 1awr 20m)

  • Democratiaeth a Chyfranogiad - prif nodweddion system wleidyddol y Deyrnas Unedig
  • Etholiadau a Phleidleisio - dealltwriaeth o’r system etholiadol
  • Pleidiau Gwleidyddol - deall traddodiadau ac ideolegau
  • Grwpiau Ymgyrchu - gwybodaeth o wahanol gategorïau o grwpiau a sut maent yn gweithredu

Uned 2: Llywodraethu’r Deyrnas Unedig (arholiad ysgrifenedig 1awr 20m)**

  • Y Cyfansoddiad - dealltwriaeth o nodweddion a natur Cyfansoddiad y Deyrnas Unedig
  • Senedd - dealltwriaeth o rolau a strwythurau
  • Prif Weinidog a’r Cabinet - dealltwriaeth o’r pwerau ffurfiol ac anffurfiol
  • Y Farnwriaeth - gwybodaeth o rôl a phŵer y barnwyr

Gofynion mynediad

Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C i gynnwys Saesneg a Mathemateg. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
  • Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
  • Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
  • Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
  • Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2019

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2020

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F07
L3

Cymhwyster

WJEC Level 3 Advanced Subsidiary Goverme

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Fe benderfynais ddod i CAVC i astudio Safon Uwch a dyma’r peth gorau i mi ei wneud erioed. Wedi cwblhau Safon Uwch, dwi'n gobeithio mynd ymlaen i astudio Sŵoleg yn y brifysgol.

Kate Matthews
yn astudio Safon Uwch mewn Celf, Bagloriaeth Cymru, Bioleg a Chemeg

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE