Mae ein cwrs Gwasanaethau Lletygarwch ar gyfer y dysgwr mwy ymarferol, a bydd yn rhoi dealltwriaeth ragorol i chi o’r diwydiant arlwyo. Caiff dysgwyr y cyfle i weithio o fewn ein bwytai llwyddiannus, gan hyfforddi mewn cegin lefel diwydiant ochr yn ochr ag unigolion proffesiynol yn ogystal â phrofi blaen tŷ yn uniongyrchol.
Bydd y rhaglen yn cyflwyno sgiliau sylfaenol coginio proffesiynol o fewn y diwydiant arlwyo, yn cynnwys llythrennedd a rhifedd neu dasgau o ddydd i ddydd. Bydd y dysgwyr yn cyfoethogi eu sgiliau personol a chymdeithasol drwy gydol y flwyddyn gan weithio’n unigol yn ogystal â mewn tîm i gwblhau tasgau ac asesiadau mewn gwasanaethau lletygarwch.
Bydd y pynciau ar y cwrs hwn yn cynnwys;
Efallai y bydd cyfle hefyd i ddysgwyr ymweld â sioeau masnach megis Hotel Olympia a chystadlu mewn cystadlaethau ar bob lefel.
Bydd disgwyl i chi hefyd fod ar dderbyniadau gwaith, gwasanaethau cinio a swper ar sail rota yn cynnwys dyddiau Sadwrn gyda’n tîm masnachol er mwyn cyfoethogi ac i ddatblygu eich sgiliau mewn bwyty moethus prysur.
Dylai ymgeiswyr arddangos hylendid personol da a delwedd broffesiynol bob amser.
Ffi ychwanegol: Bydd gwisg a chyllyll a ddarperir gan y myfyriwr ar amcan gost o £250-£280 yn cynnwys holl PPE, gwisg Cogydd, gwisg bwyty ac esgidiau diogelwch, ac mae’n rhaid iddynt gael eu gwisgo o fewn yr holl gyfleusterau cynhyrchu yn ôl y gyfraith.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd D - F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.
Bydd asesiad ymarferol yn ffurfio rhan o’r meini prawf recriwtio er mwyn canfod addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn.
Asesir y cwrs Tystysgrif drwy gwestiynau ac atebion amlddewis ac asesiadau ymarferol yn Y Dosbarth ac mewn ceginau masnachol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr ddewis i symud ymlaen at Goginio Proffesiynol Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro neu fynd yn syth at gyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.