Mae’r cymhwyster lefel 4 hwn yn cynnig dealltwriaeth fanwl o farchnata ar lefel dactegol, yn cynnwys egwyddorion sylfaenol, arferion moesegol a chynllunio ymgyrchoedd.
Mae’r Dystysgrif CIM yn cymryd tua 12 mis i'w chwblhau. Trwy gydol y cwrs, byddwch yn caffael y sgiliau angenrheidiol i ddylunio ymgyrchoedd marchnata effeithiol a chynnal arferion marchnata cymdeithasol gyfrifol.
Cyfrifwyd bod y Dystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol yn cario 50 credyd, sy’n gyfystyr â thua 500 awr fel Cyfanswm Oriau Cymhwyso (TQT) a 400 o Oriau Dysgu dan Arweiniad (GLH).
I ennill y Dystysgrif, bydd angen ichi gwblhau pedwar modiwl:
Modiwl Allweddol: Effaith Marchnata
Mae’r modiwl hwn yn manylu ar rôl hollbwysig marchnata mewn sefydliad. Mae’n cynnwys cysyniadau fel yr amgylchedd marchnata, ymddygiad defnyddwyr yn yr oes ddigidol, ymchwil i’r farchnad a phrosesau cynllunio.
Cynllunio Ymgyrchoedd Integredig
Mae’r modiwl yn cynnwys sut mae sefydliad yn datblygu ymgyrchoedd integredig o safbwynt elfennau cynnwys ac ymddygiad i sicrhau datblygiad cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, a sut y gellir eu mesur.
Marchnata Cyfrifol
Mae pwysigrwydd marchnata cyfrifol yn tyfu wrth i’r her i gydbwyso’r amgylchedd â chymdeithas ddatblygu. Mae craffu cynyddol ar ymddygiad brandiau yng nghyd-destun amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd, sy’n arwain at ddewisiadau mwy detholgar o ddefnyddwyr.
MarTech
Mae Technoleg Farchnata, neu ‘MarTech’, bellach yn hanfodol i hwyluso a chyflawni gweithgareddau marchnata. Mae’r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth am bwysigrwydd a chymhwysiad MarTech gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial (AI) o fewn sefydliadau.
Tystysgrif Gyflwyniadol Lefel 3 CIM mewn Marchnata. Unrhyw gymhwyster Lefel 3 perthnasol. Unrhyw radd yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol. Bagloriaeth Ryngwladol (cyfateb i NQF Lefel 3 ac uwch). Ymarfer proffesiynol (awgrymir blwyddyn yn y farchnad).
Mae'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) yn sefyll fel y sefydliad marchnata proffesiynol mwyaf yn y byd, a’r uchaf ei fri. Yn cael ei gydnabod a’i barchu yn rhyngwladol, mae CIM yn cynnig cymwysterau marchnata a marchnata digidol sydd wedi’u dylunio i arfogi marchnatwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnynt i ragori yn eu gyrfaoedd.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn gymwys i astudio’r Diploma Lefel 6.