Mae'r cwrs hwn yn gam cymorth delfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ceisio gwella eu sgiliau trwsio, cynnal a chadw cerbydau, neu'n gam cymorth delfrydol i'r rheini sy'n awyddus i ddatblygu i'r sector atgyweirio ac adfer cerbydau mawr.
Bydd yr holl ddysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y tair uned ganlynol:
Cyflwyniad i'r diwydiant manwerthu, trwsio cynnal a chadw moduron.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Rhaid i ymgeiswyr addas feddu ar 4 TGAU Gradd A* - E gan gynnwys Mathemateg A* - E (neu gyfwerth) a Saesneg A*-E (neu gyfwerth). Fel arall, rhaid i ymgeiswyr feddu ar ryw fath o wybodaeth sy'n berthnasol i'r diwydiant. Mae angen PPE ar gyfer y cwrs hwn, mae esgidiau cap traed dur yn hanfodol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.”