Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn CCAF, rydym wedi ymrwymo i greu gweithle croesawus, cynhwysol ac amrywiol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u grymuso i lwyddo. 

Mae ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’i ymgorffori ym mhopeth a wnawn - o’n prosesau recriwtio i’n hamgylchedd gweithio dydd i ddydd. 

Rydym yn falch o gael ein cydnabod fel arweinydd mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan symud eleni o’r 3ydd i’r 2il safle ym Mynegai 100 Uchaf o Gyflogwyr Mwyaf Cynhwysol uchel ei bri y Ganolfan Genedlaethol er Amrywiaeth, gan adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i greu amgylchedd cynhwysol, teg a chefnogol i staff a myfyrwyr. 

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn achrediad sy’n adnabyddus ym mhob cwr o’r byd.  Dyfarnir i sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at y bobl sy’n rhan o’r sefydliad, ac rydyn ni’n falch o fod wedi ennill y safon aur.

Mae’r achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl yn rhoi sicrwydd ein bod yn buddsoddi mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddiant ar gyfer ein staff, i’w cadw’n frwdfrydig ac wedi eu hysgogi.