Ni yw un o’r colegau mwyaf yn y DU, rydym yn darparu addysg a hyfforddiant o safon uchel ar draws prifddinas-ranbarth Cymru.
Tîm o dros 1000 o staff brwdfrydig a phrysur sy’n arbenigwyr pynciau ac arbenigwyr y diwydiant, sy’n hyfforddi a chefnogi 30,000 o ddysgwyr yn flynyddol mewn cyfleusterau blaenllaw mewn cymunedau a gweithleoedd ledled y rhanbarth, y DU a thu hwnt.
Yn ogystal ag astudio cwrs llawn amser, rhan amser, cwrs ar lefel prifysgol neu brentisiaeth, rydym yn cefnogi ein dysgwyr i fod yn bobl fedrus a chyflogadwy. Yn darparu cyfleoedd unigryw i fod gam ar y blaen ac i ddatblygu.
Rydym yn darparu cyfleoedd rhagorol i’n myfyrwyr a’n staff, sy’n ei wneud yn lleoliad gweithio boddhaus ac amrywiol.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi symud o’r 3ydd safle i 2il safle’r Mynegai 100 Uchaf o Gyflogwyr Mwyaf Cynhwysol y National Centre for Diversity.
Mae’r cyflawniad hwn yn dystiolaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y Coleg i ymgorffori Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE). Y coleg yw’r unig sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru sydd yn y 10 Uchaf.
Yn 2022, cafodd CCAF ei gydnabod fel y coleg gorau yn y DU am ei waith yn hyrwyddo FREDIE, gan ennill Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau ar gyfer Arweinyddiaeth Gynhwysol. Mae’r Gwobrau Beacon, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Oscars y Colegau’ yn tynnu sylw at sefydliadau Addysg Bellach ledled y DU sy’n mynd gam ymhellach wrth ddarparu gwasanaethau i’w dysgwyr a’r gymuned ehangach.
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn achrediad sy’n adnabyddus ym mhob cwr o’r byd. Dyfarnir i sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at y bobl sy’n rhan o’r sefydliad, ac rydyn ni’n falch o fod wedi ennill y safon aur.
Mae’r achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl yn rhoi sicrwydd ein bod yn buddsoddi mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddiant ar gyfer ein staff, i’w cadw’n frwdfrydig ac wedi eu hysgogi.