Cymorth Pontio

Mae ein Swyddogion Pontio ac Adolygu yn darparu cymorth i ddysgwyr sydd â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) i reoli’r trosglwyddiad o’r ysgol i’r coleg. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi, eich rhieni/gwarcheidwaid, ysgol ac unrhyw asiantaethau allanol er mwyn helpu i sicrhau bod eich cyfnod pontio i’r coleg yn digwydd yn ddidrafferth. Gallai hyn gynnwys y coleg yn mynychu eich cyfarfod adolygiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar y person, trefnu ymweliadau â’r campws, eich cefnogi yn ystod dyddiad profiad neu gyfweliad a gwahoddiadau i foreau coffi pontio.