Y ffordd fwyaf poblogaidd i bobl ifanc 16-18 oed ddysgu yn CCAF, gyda thros 5,500 o bobl yn ymrestru ar gyrsiau llawn amser bob blwyddyn!
Fel rheol byddwch yn astudio rhwng 16-22 awr yn y coleg bob wythnos, ynghyd â lleoliadau gwaith a chyfleoedd eraill a gynigir yn ystod y flwyddyn. Cynigir cyrsiau llawn amser ym mhob maes pwnc. Fe’u cynigir ar wahanol lefelau hefyd – Lefel Mynediad, Lefel 1, Lefel 2, neu Lefel 3. Fel rheol, mae lefel eich cwrs yn seiliedig ar eich graddau TGAU. Fodd bynnag, ar gyfer cyrsiau ymarferol iawn, fel trin gwallt, gwaith brics neu bobi, mae pawb yn dechrau ar y lefel isaf er mwyn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen.
Pan fyddwch yn gwneud cais am gwrs llawn amser yn CCAF, dewiswch y lefel cwrs rydych chi’n meddwl sydd fwyaf addas i chi. Gallwch ddefnyddio eich graddau TGAU rhagfynegol i’ch helpu, neu siaradwch gyda’ch athrawon neu ein tîm cynghori yn y Coleg. Byddwch yn cael cadarnhad o’r lefel y byddwch yn astudio arni wrth ymrestru ac wedi inni weld eich cymwysterau a’ch canlyniadau. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn astudio ar y lefel gywir.
Dyma drosolwg cyflym o’r gwahanol lefelau — y mathau o gyrsiau ar bob lefel a gofynion mynediad nodweddiadol ar gyfer pob un:
Mae’n cynnwys Lefel AS / A llawn amser neu gymhwyster gyrfaol fel Diploma Estynedig neu BTEC – sy’n cyfateb i 2-3 Lefel A, ond dim ond yn yr un pwnc hwnnw.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau Lefel 3 yn cynnig pwyntiau UCAS fel eich bod yn gallu mynd ymlaen i brifysgol wedyn os byddwch wedi llwyddo. Mae’r cyrsiau Lefel 3 yn datblygu gwybodaeth fanwl a sgiliau lefel uchel mewn pwnc.
Gofynion mynediad: isafswm o 5 TGAU gradd A*–C fel rheol, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
Mae’n cynnwys cymwysterau gyrfaol fel Diploma neu BTEC neu NVQ 2. Mae cyrsiau Lefel 2 yn datblygu gwybodaeth gyffredinol dda am bwnc. Mewn sawl gyrfa, dyma’r cymhwyster gofynnol i weithio mewn diwydiant penodol.
Gofynion mynediad: isafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch fel rheol, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg yn ddelfrydol.
Yn cynnwys amrywiaeth o gymwysterau sy’n seiliedig ar yrfa. Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi cyflwyniad i bwnc, gan ddatblygu eich sgiliau ymarferol a meithrin eich gwybodaeth.
Gofynion mynediad: isafswm o 4 TGAU graddau E-G fel rheol.
Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi cyflwyniad i bwnc. Maent yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i’r rhai sy’n astudio’r cwrs, i gefnogi eich datblygiad.
Gofynion mynediad: nid oes angen cymwysterau ffurfiol.
Y gofynion mynediad arferol a ddangosir uchod. Mae rhai cyrsiau’n amrywio felly cofiwch edrych ar daflen wybodaeth y cwrs ar y wefan am y gofynion mynediad penodol.
Hefyd, ar gyfer rhai cyrsiau, bydd meini prawf mynediad yc hwanegol fel cyfweliad, clyweliad neu brawf sgiliau llwyddiannus – i sicrhau bod y cwrs yn addas i chi.
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o dderbyn hyfforddiant. Dechrau swydd lawn amser yn y maes gyrfa sy’n mynd â’ch bryd chi. Yna gweithio, ennill cyflog a dysgu ochr yn ochr â hyn, a dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos fel arfer. Datblygu sgiliau ymarferol yn eich swydd a chael eich asesu wrth eich gwaith yn ogystal ag yn y coleg. CCAF yw un o’r darparwyr Prentisiaethau mwyaf ac mae’n cynnig mwy o Brentisiaethau nag erioed o’r blaen! Cynigir Prentisiaethau yn y rhan fwyaf o feysydd a chânt eu cynnig ar lefelau gwahanol.