Cymorth i ofalwr ifanc
Yn CAVC, rydym yn ceisio cefnogi ein holl ofalwyr ifanc, i sicrhau eu bod nhw'n llwyddo yn y coleg, ac yn parhau gyda'u hymrwymiadau gyrfaol.
Mae'r tîm Llesiant yn CAVC yn cynnig cymorth, ac mae ar gael i bob gofalwr ifanc yn y coleg. Gall y cymorth gynnwys;
- Helpu gofalwyr ifanc neu eu teuluoedd i gael cymorth gan nifer o wasanaethau gwahanol.
- Helpu i gael mynediad at gymorth ariannol gan wasanaethau myfyrwyr y coleg.
- Gweithio gyda gofalwyr ifanc a'u darlithwyr i drafod unrhyw gymorth o ran sgiliau, llesiant, gwaith cartref etc. Neu eu helpu nhw i roi trefn ar bethau os ydynt yn teimlo nad yw pethau'n mynd fel y bwriadwyd yn y coleg.
- Mynediad at ein Hybiau Llesiant a Swyddogion Llesiant.
Cynigir y cymorth hwn i unrhyw ofalwr ifanc sy'n astudio yn CAVC, a gellir cael mynediad ato ar unrhyw adeg. Os hoffech ragor o wybodaeth cyn dod i'r coleg, e-bostiwch learnerfeelsafeteam@cavc.ac.uk.
Os ydych eisoes yn astudio yn CAVC, gallwch siarad â'ch darlithydd am y cymorth sydd ar gael; cysylltwch â'ch Swyddog Llesiant ar y campws neu e-bostiwch y tîm ar learnerfeelsafeteam@cavc.ac.uk.