Llogi Lleoliad

Llogwch ein mannau arbennig

Lleoliad gwych. Gwasanaeth cynhwysfawr. Prisiau cystadleuol.

Yn CAVC mae gennym fannau arbennig i chi eu llogi 7 diwrnod yr wythnos, drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein campws nodedig, Campws Canol y Ddinas ar Heol Dumballs yng Nghaerdydd, 5 munud ar droed oddi wrth Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Y Ganolfan Fusnes

Yn cynnwys amrywiaeth eang o ystafelloedd modern, golau ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant neu ddigwyddiadau, a man ymneilltuo mawr a rennir ar gyfer brecwast, cinio neu seibiannau. O ystafelloedd cyfarfod bach i fannau mawrion sy’n dal hyd at 120 o bobl - mae hwn yn lleoliad delfrydol.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau - gan ddarparu desg groeso bwrpasol, cymorth technegol ac amrywiaeth eang o opsiynau arlwyo i gyfateb â’ch cyllideb.

Hefyd ar gael i’w llogi…

Mae Campws Canol y Ddinas hefyd yn cynnwys mannau unigryw eraill ar gyfer eich digwyddiad, cyfarfod, cynhadledd neu ddiwrnod o’r swyddfa. Mae hyn yn cynnwys:

Theatr Michael Sheen

- theatr wych gyda 100 o seddi ar gyfer cyflwyniadau, digwyddiadau, dangosiadau a pherfformiadau byw.

Bwyty’r Dosbarth

- ein bwyty o’r radd flaenaf sydd wedi derbyn 2 roséd AA, gyda golygfeydd ar draws y ddinas ac yn dal hyd at 90 o bobl.

Stiwdio Ddawns

- stiwdio ddawns fawr, bwrpasol gyda llawr sbring a golau naturiol.

Ac nid dyna’r cwbl…

Ar draws ein campysau eraill yng Nghaerdydd, y Barri a’r Fro, mae mannau eraill ar gael i’w llogi.
O ystafelloedd cyfarfod, i fwyty a hyd yn oed sied awyrennau.

Holwch nawr!

Llenwch y ffurflen isod a bydd ein tîm llogi lleoliad yn cysylltu â chi i roi gwybod beth sydd ar gael.