Cymorth Sgiliau

Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, rydym yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i sicrhau bod ein dysgwyr yn ffynnu. Dysgwch sut y gall ein Hyfforddwyr Dysgu - Sgiliau a Llesiant eich helpu yn ystod eich astudiaethau.  

Gall Hyfforddwyr Dysgu eich cefnogi yn ystod eich cyfnod yn CCAF, ar y campws ac ar-lein. Rydym yn cefnogi dysgwyr ar unrhyw lefel ac ar unrhyw gwrs i lwyddo a chyflawni hyd at eithaf eich gallu. 

Gallwn eich cefnogi gyda sgiliau academaidd ac astudio fel ysgrifennu traethodau, aseiniadau, sgiliau llythrennedd neu rifedd, adolygu, rheoli amser a sgiliau trefnu. Beth bynnag yw eich cwrs, gallwn eich helpu chi. Gwyliwch ein fideo byr i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch â ni drwy learningcoach@cavc.ac.uk.