Bob blwyddyn rydym yn gwella’r cyfleoedd a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n dod o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y rhanbarth, i barhau i ddysgu’n ddwyieithog a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cynyddu'r nifer o gyrsiau a modiwlau dwyieithog a gynigir fel rhan o bob cwrs, ar bob campws CAVC, p’un a ydych yn astudio cwrs llawn amser neu ran amser neu brentisiaeth gyda ni, ac yn sicrhau y gall myfyrwyr ar unrhyw gwrs ar draws y Coleg ddewis cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os ydych yn dod o ysgol cyfrwng Cymraeg byddwn yn cysylltu yn ystod eich mis cyntaf yn y coleg i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael. Gallwch fod yn sicr ein bod yn cynnig darpariaeth a chymorth Cymraeg cynhwysfawr i bob dysgwr gan gynnwys anfon pob gohebiaeth gyffredinol yn ddwyieithog, sicrhau bod pob ffurflen gais, prosbectws a marchnata yn ddwyieithog; gall dysgwyr gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg, cwblhau modiwlau Cymraeg neu ddwyieithog fel rhan o’u cwrs, cyrchu canllawiau terminoleg pwnc-benodol a chael cymorth i ddysgu’n ddwyieithog; cyrchu cymorth digidol fel Cysgliad, mynychu cyfarfodydd ffurfiol yn eu dewis iaith, ac rydym yn gweithio gyda chyrff dyfarnu i gyflwyno tystysgrifau dwyieithog lle bynnag y bo modd.
Gallwch anfon e-bost at cymraeg@cavc.ac.uk ar unrhyw adeg os oes gennych gwestiwn, neu os oes angen cymorth arnoch, mae ein Swyddog Iaith Gymraeg, Rheolwr Cwricwlwm Cymru ac Anogwyr Dysgu bob amser yma i helpu.
Mae gennych iaith felly peidiwch â’i cholli! Os ydych yn siarad Cymraeg neu’n dod i unrhyw un o gampysau ein Coleg o ysgol cyfrwng Cymraeg, rydym yn eich annog i ddefnyddio’ch Cymraeg mewn gwersi a thu hwnt iddynt. Mae llawer o gefnogaeth a gallwch ddewis cael eich asesu yn Gymraeg, beth bynnag yr ydych yn ei astudio. Ac mae yna gyfleoedd gwych i ddysgwyr Cymraeg sy’n astudio gyda ni, fel dod yn Llysgennad Myfyrwyr Cymraeg. Mae rhestr lawn o’n Llysgenhadon Myfyrwyr Presennol i’w gweld ar ein porth myfyrwyr.
Mae dwyieithrwydd yn allweddol i’r gweithle, nid dim ond yng Nghymru, ond ym mhob cwr o’r byd. Bydd CAVC yn eich cefnogi chi ac yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ar gyfer y byd gwaith – bydd hyn yn benodol i bwnc, gan roi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi.
Beth am fynd ati i ddysgu Cymraeg ac elwa o ran eich gyrfa, waeth beth ydych chi’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Mae’r Gymraeg yn gallu agor drysau ar fwy o gyfleoedd a mwy o arian.
Rydym yn ehangu ein darpariaeth ddwyieithog bob blwyddyn mewn nifer o bynciau. Mae hwn yn golygu bod mwy o gyfleoedd i chi astudio yn ddwyieithog, yn y dosbarth a thrwy brofiad gwaith. Os ceir angen cydnabyddedig a galw yn y diwydiant, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn llwyr.
Rydyn ni’n Gymry ac yn falch o hynny! Efallai bod Cymru’n wlad fach, ond mae hi’n ddigon mawr! Rydyn ni’n croesawu Cymreictod yn ein cyrsiau ac yn yr holl bethau hwyliog eraill drwy gydol y flwyddyn. Cofiwch gadw llygad i weld sut allwch chi gymryd rhan!
Mae gennym diwtoriaid cyfrwng Cymraeg sy’n ymroddedig i gyflwyno hyn. Am fwy o wybodaeth am gymorth ac astudiaethau cyfrwng Cymraeg: cymraeg@cavc.ac.uk
Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru sydd eisiau gwybodaeth fwy manwl am ein cyfleoedd a chefnogaeth iaith Gymraeg fynd i adran y Gymraeg ar y porth myfyrwyr.
Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Eu nod yw gweithio gyda darparwyr AU ac AB i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yng Nghymru. Gyda’n gilydd, rydym yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn Gymraeg ac yn ddwyieithog, ac yn ysbrydoli dysgwyr, a phrentisiaid ar draws CAVC i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma.
O dan Safonau'r Gymraeg, mae gan myfyrwyr hawl i’r canlynol, ymhlith pethau eraill: Gohebiaeth yn y Gymraeg, Cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn y Gymraeg, Cefnogaeth yn y Gymraeg. Gweler www.comisiynyddygymraeg.cymru/maegenihawl am fanylion llawn ynghylch pa hawliau sydd gennych chi.