Dathlu blwyddyn arall o lwyddiannau yng Ngwobrau Chwaraeon CCAF 2026

14 Mai 2026

Mae Academïau Chwaraeon Coleg Caerdydd a'r Fro wedi dathlu blwyddyn ragorol arall yng Ngwobrau Chwaraeon CCAF 2026.

Mae'r Academïau wedi mynd o nerth i nerth yn 2025-26, gan chwarae ar y lefel uchaf, cyrraedd camau olaf twrnameintiau, ennill cynghreiriau a gweld chwaraewyr yn mynd yn eu blaen i gyflawni anrhydeddau rhanbarthol a chenedlaethol.

Cafodd academi Rygbi Merched CCAF dymor anhygoel yn 2025-26, gan fynd o dri chwaraewraig ar ddechrau'r tymor i ennill ei thlws cyntaf erioed ar y diwedd. Ar ôl methu â chyrraedd y rownd derfynol o drwch blewyn yng ngornest 7 bob ochr Rosslyn Park, aeth yr Academi yn ei blaen i ennill 7 bob ochr yr Urdd a chawsant eu coroni'n Bencampwyr y Plât.

Ar ôl dechrau anodd i'r tymor, gorffennodd Academi Rygbi'r Dynion ar uchafbwynt hefyd, gan ennill Cwpan Cynghrair Datblygu URC. Cafodd yr Academi daith 12 diwrnod lwyddiannus i Dde Affrica hefyd lle gwnaethon nhw gystadlu yn erbyn, a threchu, rhai o ysgolion rygbi gorau'r wlad.

Dewiswyd y chwaraewyr Harvey Bryant, Ffredi Easterby, Iestyn Stephens a Cian McGee ar gyfer Academi Rygbi Caerdydd hefyd. Chwaraeodd Harvey i dîm Cymru dan 18 oed hefyd.

Cafodd Academi Pêl Rwyd y Coleg dymor llwyddiannus, gan sicrhau teitl y gynghrair gyda buddugoliaeth galed o 35-31 yn erbyn Coleg y Cymoedd yn y gêm oedd yn penderfynu ar ganlyniad y tymor. Daeth y fuddugoliaeth ar ddiwedd tymor heb golli o gwbl, gan sicrhau Cwpan Cynghrair B Cymdeithas y Colegau (AoC) i'r Academi.

Dewiswyd y chwaraewraig Eva Lewis hefyd i chwarae i dimau Sir Caerdydd a'r Fro a Cholegau Cymru.

Mae'r Academi Pêl Droed wedi gweld cyflawniadau drwy dwf unigol gyda chwaraewyr yn gwneud cynnydd yn fewnol ar draws carfanau ac yn gwneud cynnydd pwysig gyda'u clybiau eu hunain. Roedd sawl chwaraewr yn nhîm Met Caerdydd a enillodd y Gynghrair Datblygu, yn ogystal â chwaraewyr yn rhan o garfanau diwrnod gêm ar lefel Cymru Premier a Cymru South. Dewiswyd y chwaraewyr Osian Haines a Josh Stephens i chwarae i dîm Colegau Cymru y tymor yma hefyd.

Cafodd Academi Pêl Fasged CCAF un o'r tymhorau mwyaf llwyddiannus yn hanes y rhaglen. Sicrhaodd bumed Pencampwriaeth Colegau Cymru yn olynol, a gorffennodd yn drydydd yng Nghynghrair Pêl Fasged y Colegau. Daeth ei thymor i ben drwy ennill efydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol AoC, gan osod y tîm fel un o'r timau cryfaf yn y DU.

Hefyd dewiswyd y chwaraewyr Onanefe Atufe a Luca Basini-Jones i chwarae i dîm Pob-Cynhadledd Haen 2 Cynghrair Pêl Fasged y Colegau.

Aeth y Wobr i Fyfyriwr Elitaidd a Pherfformiad y Flwyddyn Heb fod mewn Academi i Rose Williams.

Mae Rose yn aelod o Garfan Nofio Perfformiad Elitaidd Cymru ac, ar hyn o bryd, mae hi'n rhif 1 yng Nghymru ar gyfer pob ras dull rhydd a dull cefn. Mae hi’n dal 13 record yng Nghymru yn y dosbarthiad S14 ac mae hi wedi cyrraedd safleoedd y byd, yn 4ydd yn y dull cefn 100m, 7fed yn y dull rhydd 100m a 200m, ac 8fed yn y dull cymysg 200m. Yn gynharach eleni cystadlodd yng Nghyfres Nofio'r Byd Periw, gan sicrhau 11 medal. Mae Rose yn gobeithio cael ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yr haf yma, ar ôl gorffen yn yr 8 uchaf mewn treialon yn ddiweddar.

Capten yr Academi Rygbi, Harvey Bryant, oedd enillydd y Wobr i Athletwr Fyfyriwr Cyffredinol y Flwyddyn CCAF.

Mae Harvey wedi cael tymor gwych ar y cae rygbi. Mae'n arwain tîm y dynion o'r blaen fel capten - ac mae ei berfformiadau wedi cael eu cydnabod y tu hwnt i CCAF hefyd. Chwaraeodd bob gêm ym mloc Academi 18 Rygbi Caerdydd, a chynrychiolodd Gymru dan 18 oed yn y Chwe Gwlad, gan chwarae'r tair gêm allan yn Ffrainc.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Fe hoffwn i longyfarch enillwyr ein gwobrau ni a holl chwaraewyr ein Hacademïau Chwaraeon. Rhaid canmol y gwaith caled a'r ymroddiad rydych chi i gyd wedi'i ddangos eleni i sicrhau cydbwysedd rhwng eich astudiaethau a'ch ymrwymiad i hyfforddi a chymryd rhan hyd eithaf eich gallu yn y gamp o’ch dewis, ac rydych chi wedi ein gwneud ni i gyd yn falch iawn.

“Fe hoffwn i hefyd longyfarch a diolch i’r holl dimau hyfforddi gwych yn yr academïau a chydweithwyr ehangach yn y Coleg sydd wedi cefnogi ein chwaraewyr ni drwy gydol y flwyddyn.”

Mae Academïau Chwaraeon CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Maen nhw’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy'n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o'r radd flaenaf gyda phortffolio eang o gyrsiau'r Coleg. Mae’r chwaraewyr yn gallu gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o Academïau Chwaraeon CCAF? Ewch i https://cavc.ac.uk/en/sportsacademies am ragor o wybodaeth.