Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn atgyfnerthu ei ymrwymiad hirsefydlog i gymuned y Barri drwy gefnogi 10k y Barri ar 17 Mai, a pharhau â'i fuddsoddiad yn nyfodol y dref.
Bydd y Coleg yn ymgymryd â rôl Cefnogwr Digwyddiadau yn 10K y Barri, gan adeiladu ar ei bresenoldeb yng Ngŵyl Fach y Fro ac atgyfnerthu ei ymrwymiad i gefnogi cymunedau ar draws y Fro, a gynhelir dros yr un penwythnos.
Mae'r presenoldeb cyfunol yn adlewyrchu ymroddiad parhaus CCAF i ymgysylltu â chymunedau ledled Bro Morgannwg - nid yn unig drwy addysg, ond drwy gefnogi mentrau diwylliannol, chwaraeon a chymunedol.
Bydd llwybr 10K y Barri yn mynd heibio safle campws newydd y Coleg ar Lannau'r Barri, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y cyfleuster o'r radd flaenaf yn ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ac yn darparu mannau modern, hygyrch i'r gymuned ehangach elwa ohonynt.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Mae'r Barri bob amser wedi bod yn rhan bwysig o'n stori fel Coleg. Drwy gefnogi Gŵyl Fach y Fro a 10K y Barri, rydym yn falch o fod yn rhan o ddigwyddiadau sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn dathlu'r gymuned.
“Gyda'n campws newydd yn cymryd siâp ar Glannau'r Barri, mae hon hefyd yn foment gyffrous i ni edrych ymlaen. Wrth i redwyr basio'r safle yn ystod y 10K, mae'n ein hatgoffa’n bwerus nad ydym yn cefnogi'r gymuned am benwythnos yn unig - rydym yn buddsoddi yn ei dyfodol am genedlaethau i ddod.”
Mae gan CCAF hanes cyfoethog o ddarparu addysg a hyfforddiant yn y Barri ac ar draws y Fro, ac mae'r campws newydd yn cynrychioli'r bennod nesaf yn y daith honno. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn cynnig cyfleusterau o ansawdd uchel sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r gymuned ehangach.
Trwy fod yn rhan o ddigwyddiadau fel Gŵyl Fach y Fro a 10K y Barri, mae'r Coleg yn parhau i hyrwyddo iechyd, lles a balchder cymunedol, wrth greu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gyfranogi, gwirfoddoli a chysylltu â phobl leol.