Dathlu blwyddyn eithriadol o chwaraeon yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro
Mae Academïau Chwaraeon Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu blwyddyn eithriadol arall yng Ngwobrau Chwaraeon CCAF 2025.
Mae’r Academïau wedi mynd o nerth i nerth yn 2024-25, gan chwarae ar y lefel uchaf, cyrraedd rowndiau terfynol mewn twrnameintiau, ennill cynghreiriau a gweld chwaraewyr yn mynd ymlaen i ennill clod ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Eleni hefyd, cynhaliodd CCAF y Bencampwriaeth Timau’r Colegau cyntaf erioed yn erbyn Coleg Gŵyr Abertawe, gan ddod i’r brig fel Pencampwyr Cyffredinol.
Enillodd yr Academi Pêl Fasged Bencampwriaeth Chwaraeon Genedlaethol Cymdeithas y Colegau am yr ail flwyddyn yn olynol, a’r bedwaredd Bencampwriaeth Genedlaethol Colegau Cymru’n olynol.
Cafodd y Tîm Cyntaf Pêl Fasged dymor cynghrair gystadleuol ar lefel uchaf Cynghrair Pêl Fasged y Colegau, gan ennill lle fel un o’r 16 tîm gorau ym Mhrif Gynghrair Lloegr dan 18 – y tîm cyntaf erioed o Gymru i gyrraedd gemau ail gyfle Prif Gynghrair Pêl Fasged Lloegr.
Bu’r chwaraewyr Ishola Adamson, Tobias Burgess a Gerard Canete yn cynrychioli Cymru ar lefel dan 17, a bu Boyl Bakrachev, Luca Basini-James, Panos Nikolais, Paddy Whitestone ac Onanefe Atufe yn chwarae i dîm Cymru dan 20. Cynrychiolodd Onanefe Atufe Brydain Fawr ar lefel dan 18 hefyd.
Cafodd yr Academi Pêl Rwyd dymor llwyddiannus a gwerth chweil gyda buddugoliaethau eithriadol. Bu’r tîm hefyd yn cynrychioli CCAF yn nhwrnameintiau’r Urdd a Cholegau Cymru.
Cafodd Amelia Henson ei galw i chwarae ar ran Sir Caerdydd a’r Fro a derbyniodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig wrth iddi gynrychioli tîm B y sir dan 18 yn Rownd Derfynol y Siroedd. Cafodd y chwaraewr Eloise Grover ei dewis i chwarae ar ran Colegau Cymru, Academi Dreigiau Caerdydd dan 19 ac Academi Genedlaethol Cymru dan 19.
Bu Tîm Cyntaf Academi Pêl Droed y Dynion yn cystadlu yn y Gynghrair Categori 1 am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan gyrraedd y pumed safle. Fe wnaethant hefyd lwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cyrhaeddodd Tîm Datblygu/Categori 3 yr Academi’r chwarteri yn y Gwpan Genedlaethol am y tro cyntaf erioed.
Enillodd Academi Pêl Droed Merched CCAF dwrnamaint Pencampwriaeth 7 bob ochr Cymru am yr ail waith mewn tair blynedd, a bu’r tîm yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Genedlaethol y DU.
Ochr yn ochr â hyn, bu chwaraewyr o’r Academi Pêl Droed y Dynion a’r Merched yn cynrychioli Ysgolion Cymru, Colegau Cymru a gemau rhyngwladol grwpiau oedran.
Enillodd yr Academi Rygbi Merched bump allan o saith gêm yng nghystadleuaeth enwog Saith bob ochr Ysgolion Cenedlaethol Parc Rosslyn, gan gynnwys buddugoliaeth gornest leol Cymru yn erbyn Coleg y Cymoedd. Cafodd y tîm hefyd ei gynrychioli’n dda yn ystod cystadleuaeth 7 bob ochr yr Urdd.
Cafodd Rhoswen James, Lili Corrihons a Maddie Whelpton eu galw i grŵp chwaraewyr Llwybr Rygbi Cymru dan 18, a chafodd Rhoswen hefyd ei dewis i chwarae ar ran tîm Cymru dan 18.
Daeth Tîm Cyntaf Rygbi’r Dynion yn chweched yn y gynghrair, ac fe wnaeth chwaraewyr o bob rhan o’r Academi berfformio’n dda yng Nghystadleuaeth Saith bob Ochr Parc Rosslyn.
Bu Dylan Shears, Jack Clease, Ben Bora, Osian Howell a Rhys Cummings yn chwarae i Dîm Rygbi Caerdydd dan 18, a bu Morgan Culverhouse yn cynrychioli tîm Bristol Bears dan 18 ym Mhrif Gynghrair dan 18 yr Academi.
Yn y gwobrau, enillodd Jessica Mantle y wobr ar gyfer Myfyriwr Elitaidd a Pherfformiad y Flwyddyn sydd ddim mewn Academi, ynghyd â’r wobr ar gyfer Prif Athletwr y Flwyddyn.
Mae Jessica yn sbrintiwr elitaidd ac mae ei llwyddiannau’n cynnwys Pencampwr dan 20 dros Gymru yn y ras 100m a Phencampwr merched hŷn Ysgolion Cymru. Gan lwyddo i gyflawni pethau anhygoel ynghyd â chydbwyso ei hastudiaethau yn y coleg, mae Jessica yn ddysgwr hyderus sy’n mwynhau perthynas wych gyda’i thiwtor, hyfforddwyr a’i chyfoedion, ac yn sicr o lwyddo yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn gwobrau a phob un o chwaraewyr yr Academi Chwaraeon. Mae eich holl waith caled a’ch ymrwymiad eleni i gydbwyso eich astudiaethau gyda’ch ymrwymiad i hyfforddi ac i gymryd rhan hyd eithaf eich gallu yn eich camp ddewisol i’w ganmol, ac rydym ni i gyd yn falch iawn ohonoch.
“Hoffwn hefyd longyfarch a diolch i holl dimau hyfforddi gwych yr academi a staff ehangach y Coleg sydd wedi cefnogi ein chwaraewyr drwy gydol y flwyddyn.”
Mae Academïau Chwaraeon CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Maen nhw’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno hyfforddiant o’r radd flaenaf a chyfleusterau chwaraeon gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.
Diddordeb mewn ymuno ag Academi Chwaraeon yn CCAF? Gallwch gofrestru diddordeb nawr yn y cyfnod cyn i’r tymor ddechrau – ewch i https://cavc.ac.uk/cy/sportsacademies i gael rhagor o wybodaeth.