Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi sefydlu partneriaeth gydag M&S i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr Seibrddiogelwch proffesiynol.
Mae M&S yn noddi Cyber College Cymru yn CCAF, ac fel rhan o’r bartneriaeth hon, bydd tîm Seibrddiogelwch M&S yn cyflwyno cyfres o weithdai ymarferol, wedi’u cynllunio i arfogi dysgwyr gyda’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn Seibrddiogelwch i helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau seibr y DU.
Drwy’r bartneriaeth hon, bydd cydweithwyr Seibrddiogelwch M&S yn darparu hyfforddiant arbenigol i griw o 21 o ddysgwyr CCAF. Bydd y rhaglen yn cynnwys deg gweithdy wythnosol drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth.
Bydd y gweithdai hyn yn ymdrin ag ystod o bynciau Seibrddiogelwch hollbwysig, gan gynnwys ymchwiliadau Windows a Linux, hanfodion diogelwch rhwydwaith ac ymateb i ddigwyddiadau. Bydd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn heriau hunan-ddysgu gan ganolbwyntio ar Microsoft Security a hacio moesegol, yn ogystal â chymryd rhan mewn dyddiau her sydd wedi'u cynllunio i efelychu senarios mewn byd real.
Dywedodd Steve Cottrell, Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth Marks and Spencer: “Mae’r galw am weithwyr seibrddiogelwch proffesiynol medrus yn fwy nag erioed. Mae M&S yn falch o noddi Cyber College Cymru a chyfrannu at fynd i'r afael â'r angen hollbwysig yma. Drwy ddarparu hyfforddiant ymarferol a gwybodaeth byd real, ein nod ni yw rhoi’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil yn y byd seibrddiogelwch.”
Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn hynod falch o ffurfio partneriaeth gydag M&S ar weithdai Cyber College Cymru. Mae’r bartneriaeth yma’n rhoi mynediad i fyfyrwyr at arbenigedd diwydiant, gan sicrhau eu bod yn ennill y sgiliau seibr diweddaraf. Bydd cyfranogiad M&S yn rhoi hwb i ddysgwyr a staff, gan effeithio ar y DU a Chymru, a chefnogi twf ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.”
Dywedodd Mike Halliday, Arweinydd Rhaglen, Cyber College Cymru: “Mae tîm addysgu Coleg Caerdydd a’r Fro a thîm seibr M&S wedi lansio’r rhaglen ar gyfer eleni a byddant yn helpu i greu cyflenwad o sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae’r gweithdai technegol yn uchafbwynt i fyfyrwyr, gan ddangos cynnydd rhagorol ac mae’r wybodaeth am y byd real gan M&S yn mynd i sicrhau effaith orau bosib y rhaglen ar ein pobl ifanc ni sydd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs.”