Pennaeth Pêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro Ieuan wedi’i ddewis yn Hyfforddwr Cynorthwyol i Dîm Pêl Fasged Dan 18 Prydain Fawr

9 Ion 2025

Mae Ieuan Jones, Pennaeth Pêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi cael ei ddewis yn Hyfforddwr Cynorthwyol i dîm Pêl Fasged Dynion Dan 18 Prydain Fawr.

Cafodd y dewis ei wneud cyn twrnamaint Eurobasket Ieuenctid FIBA, a fydd yn cael ei gynnal yn yr haf. Bydd gwersyll dewis cyntaf Tîm Prydain Fawr Dan 18 yn cael ei gynnal yn fuan, ac mae tri o chwaraewyr Academi Pêl Fasged CCAF - Onanefe Atufe, Luca Basini-James a Panos Nikalaidis – wedi cael eu henwebu.

Dywedodd Pennaeth Pêl Fasged CCAF, Ieuan Jones: "Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy mhenodi'n Hyfforddwr Cynorthwyol i ddynion Dan 18 Prydain Fawr. Mae'n anrhydedd enfawr ac yn golygu llawer i mi ar lefel bersonol. Rydw i'n falch o gynrychioli'r Coleg a’n Hacademi ni ar y llwyfan rhyngwladol.”

Ers i Ieuan ddechrau yn CCAF, aeth yr Academi Pêl Fasged i Bencampwriaethau Pêl Fasged Chwaraeon Colegau Cymru am y tro cyntaf ac ennill. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ennill y Bencampwriaeth am bedair blynedd yn olynol a’r llynedd creodd hanes drwy ddod y coleg cyntaf erioed o Gymru i ennill Pencampwriaeth Pêl Fasged Cymdeithas y Colegau.

Dywedodd Uwch Bennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Caerdydd a’r Fro: “Llongyfarchiadau i Ieuan ar y penodiad hynod haeddiannol yma!

“Mae Ieuan yn gaffaeliad gwirioneddol i’r Coleg, ein Hacademi ni ac i bêl fasged yn y rhanbarth. Bydd yn gwneud gwaith gwych yn helpu i hyfforddi tîm Dynion Dan 18 Prydain Fawr.”

Mae Academi Pêl Fasged CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r radd flaenaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.

I gael gwybod mwy am yr Academi Pêl Fasged ewch i: https://cavc.ac.uk/en/basketballacademy