Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro yn datgelu cit cartref newydd ar gyfer tymor 2024-25

12 Medi 2024

Mae Academi Rygbi enwog Coleg Caerdydd a’r Fro wedi datgelu ei chit cartref newydd ar gyfer tymor 2024-25.

Datgelodd yr academi hefyd mai ei noddwyr newydd eleni yw ARO, darparwr cymorth TG y Coleg oedd yn arfer cael ei alw yn Circle IT.

Yn y llun mae Capten Tîm Cyntaf yr Academi Rygbi, y dysgwr Safon Uwch Zac Lynam, a Chapten y Tîm Datblygu, y dysgwr Chwaraeon Alfie Sherwood.

Dywedodd James Young, Pennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus CCAF: “Fe hoffen ni ddweud ‘diolch’ enfawr i’n noddwyr ni, ARO a Castell Howell, am eu cefnogaeth i’n Hacademi Rygbi. Heb y nawdd yma, fel Castell Howell yn noddi taith yr Academi i Wlad Thai y llynedd i gystadlu yng Ngŵyl Ysgolion y Byd, ni fyddai ein chwaraewyr ni’n cael y profiadau anhygoel rydyn ni mor falch o’u cynnig iddyn nhw.”

Mae Academi Rygbi CCAF yn un o academïau chwaraeon enwog y Coleg. Yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg, mae’r academïau’n darparu amgylchedd cefnogol a phroffesiynol sy’n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau o’r radd flaenaf gydag astudiaethau galwedigaethol neu academaidd, gan roi cyfle i bobl ifanc wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn CCAF.

I gael gwybod mwy ewch i https://cavc.ac.uk/cy/rugbyacademy