Dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn treulio’r haf yn bod yn Greadigol

7 Awst 2024

Mae dysgwyr ar gyrsiau Creadigol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi treulio haf prysur yn cymryd rhan mewn perfformiadau byw, sioeau ac arddangosfeydd ar hyd a lled y Prifddinas-Ranbarth.

I nodi diwedd y tymor, roedd dysgwyr o bob maes o fewn cwricwlwm Creadigol eang y Coleg wedi cynnal Sioe Arddangos Diwedd Blwyddyn rhyfeddol. Roedd yn cynnwys arddangosfeydd, cerddoriaeth fyw, dawns, perfformiadau a sioe ffasiwn, dyma un o uchafbwyntiau blwyddyn academaidd CCAF bob amser.

Cynhaliodd carfan Greadigol y Barri eu harddangosfa eu hunain yn yr Oriel Gelf Ganolog, tra’r oedd dysgwyr Celf wedi mynd ati hefyd i gynnal arddangosfa dros dro yn Amgueddfa Sain Ffagan, a chynhaliodd myfyrwyr Ffasiwn sioe ffasiwn yng Nghanolfan y Mileniwm. Yn ogystal â hyn, roedd myfyrwyr Creadigol wedi cynhyrchu Llwybr Celf Tafwyl ym Mharc Bute, ac wedi perfformio yn Guys and Dolls a chynyrchiadau eraill yng Ngŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd 2024.

Yn wir, dewiswyd gwaith un dysgwr ar gyfer arddangosfa yn y Mall Galleries yn Llundain. Cafodd gwaith Naomi Provence, sef ‘Casgliadau’, ei ddewis gan y corff dyfarnu UAL o blith mwy na 500 o ymgeisiau ledled y DU ar gyfer yr arddangosfa ‘Origins Creatives’, sy’n arddangos talent artistig ifanc.

“Ar hyn o bryd, rydw i’n astudio Celf a Dylunio Lefel 3 yng Nghampws y Barri yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro,”
medd Naomi. “Rai wythnosau’n ôl, fe wnaeth y corff dyfarnu ar gyfer fy nghwrs ddewis cerflun roeddwn i wedi bod yn gweithio arno drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ei gynnwys yn yr arddangosfa. Rydw i’n eithriadol o hapus a balch fy mod wedi cael fy newis ac rydw i’n edrych ymlaen at fynd i Lundain i weld yr arddangosfa â’m llygaid fy hun.”

Bob blwyddyn, mae CCAF yn darparu ar gyfer dros 500 o ddysgwyr ar bob math o gyrsiau Creadigol, sy’n amrywio o Gelf a Dylunio i Ddylunio Ffasiwn, Dylunio Amlgyfrwng, Dylunio Cynnyrch 3D, Cynhyrchu Ffilm a Theledu, Dylunio Graffeg, Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth – Cynhyrchu neu Berfformio – a’r Celfyddydau Perfformio, naill ai Theatr Gerdd neu Actio. Bydd tua 50% yn mynd ymlaen i brifysgolion fel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Goldsmiths, Central St Martins, y Coleg Celf Brenhinol, Ysgol Ffilm Llundain, Academi Ffilm Ravensbourne, Prifysgol Gorllewin Llundain neu brifysgolion Caerfaddon a Bryste.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Yn CCAF, rydym ni’n ymfalchïo mewn cynnig profiadau a chyfleoedd sy’n fwy na dim ond ystafell ddosbarth, ac mae holl amrywiaeth y gweithgareddau a’r perfformiadau y mae ein dysgwyr Creadigol wedi cymryd rhan ynddyn nhw’r haf hwn yn brawf o hynny.”

“Mae’r holl ddoniau sy’n cael eu harddangos, naill ai o ran gwaith celf a dylunio, ffasiwn, cerddoriaeth neu berfformio, wedi bod yn syfrdanol. Pob lwc i bob un o’n dysgwyr Creadigol – a barnu yn ôl y gwaith rydych chi’n ei gynhyrchu’n barod, mi ewch chi’n bell.”