Mae Emily Jones, dysgwraig Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi ennill Gwobr yr Actores Orau eleni yng Ngwobrau It’s My Shout.
Enillodd Emily y wobr am ei phrif ran yn ffilm fer It’s My Shout New Beginnings, a ddarlledwyd ar BBC 2 Wales ym mis Rhagfyr 2023.
Mae It’s My Shout yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sydd wedi bod yn grymuso pobl mewn cymunedau yng Nghymru i gael profiad o weithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu ers dros 20 mlynedd.
Bob blwyddyn mae’n cynhyrchu tua 12 o ffilmiau byrion gan ddefnyddio pobl leol o flaen a thu ôl i’r camera ym mhob rôl, o actorion i awduron, cyfarwyddwyr, sgowtiaid lleoliad, rhedwyr, gwallt a cholur, cynllunwyr gwisgoedd a golygyddion ffilm. Wedyn mae'r ffilmiau byrion yn cael eu darlledu ar BBC ac S4C.
Mae gan CCAF hanes maith o’i ddysgwyr yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau It’s My Shout. Eleni, ffilmiwyd ffilm fer y Coleg i gystadlu, In Time of Need, ar Gampws Canol y Ddinas ac roedd 20 o ddysgwyr CCAF yn cymryd rhan. Enwebwyd y prif gast o ddysgwyr, Thomas Rees, Georgia Barley, Emily Allan, Noah Wilton Jones a Max Cooper, am y Cast Ensemble Gorau yng Ngwobrau It’s My Shout hefyd.
Y dysgwyr eraill o CCAF a gafodd eu henwebu ar gyfer Gwobrau It’s My Shout oedd: Dasha Shaughnessy fel y Cynorthwy-ydd Lleoliadau Gorau, Osian Wyn Rudge fel y Ffotograffydd Lluniau Llonydd Gorau, Molly Griffiths fel y Cynorthwy-ydd Goleuo Gorau a Mia Jones a Tierney Parker am y Gwallt a’r Colur Gorau.
Y llynedd, enillodd Katie Pritchard, dysgwraig Celfyddydau Perfformio yn CCAF, wobr yr Actores Orau yng Ngwobrau It’s My Shout. Mae’r ffilm fer y bu’n serennu ynddi, Small Change, hefyd ar restr fer Gwobrau Ymylol Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2024 yn y categori Drama Fer (Sgrin).
Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Emily am ennill Gwobr yr Actores Orau, a llongyfarchiadau mawr i holl fyfyrwyr eraill CCAF a gafodd eu henwebu yng Ngwobrau It’s My Shout eleni.
“Dros y blynyddoedd mae llawer o’n dysgwyr ni wedi cael profiad gwaith gwerthfawr ym mhob agwedd ar greu ffilmiau, o actio i gynllunio gwisgoedd a gwallt a cholur, felly rydyn ni wedi gweld gyda’n llygaid ein hunain y gwaith rhagorol mae It’s My Shout yn ei wneud ac rydyn ni wrth ein bodd yn gallu eu cefnogi nhw.”
Diwedd