Mae Coleg Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â WEPCO, wedi lansio proses ymgynghori ynghylch cais cyn-gynllunio ar gyfer dau gampws newydd ym Mro Morgannwg.
Yr haf diwethaf, cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol y Coleg gan Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi £100m mewn addysg a hyfforddiant yn y Fro. Yn awr, bydd CAVC, mewn partneriaeth â WEPCO, yn ymgynghori ynghylch ei gynlluniau cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y campysau.
Mae’r Coleg yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg ar y cynlluniau, a fydd yn disodli campws presennol CAVC yn y Barri gyda champws newydd ar Lannau’r Barri a Chanolfan Uwch-dechnoleg ym Maes Awyr Caerdydd.
Byddai modd i gampws 6,000 metr sgwâr Glannau’r Barri ddal bron i 900 o ddysgwyr a mwy na 200 o staff ar unrhyw adeg. Yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth a champfa lesiant, mae’r cynlluniau’n cynnwys ffryntiadau stryd a fyddai ar agor i’r cyhoedd ar gyfer Gwallt a Harddwch a Lletygarwch ac Arlwyo.
Campws Glannau’r Barri
Ar sail Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod CAVC ym Maes Awyr Caerdydd, a fydd yn parhau i weithredu, byddai’r Ganolfan Uwch-dechnoleg arfaethedig 13,000 metr sgwâr o faint yn dal bron i 2,000 o ddysgwyr a 215 o staff. Yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth a labordai, mae’r cynlluniau’n cynnwys gweithdai ar gyfer gwasanaethau adeiladu, technolegau gwyrdd, adeiladu, peirianneg ac elfennau modurol, yn cynnwys cerbydau trydan, ynghyd â Chanolfan Fusnes a Dysgu a Sgiliau Addysg Uwch.
Y Ganolfan Uwch-dechnoleg
Medd Mike James, Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn falch dros ben o agor yr ymgynghoriad ynglŷn â’n cynlluniau ar gyfer y prosiect pwysig hwn lle byddwn yn buddsoddi £100m mewn addysg a hyfforddiant ym Mro Morgannwg – rhywbeth a fydd yn bwysig dros ben i economi’r rhanbarth ehangach a thu hwnt.
“Bydd pwysigrwydd rhanbarthol a chenedlaethol yn perthyn i’r Ganolfan Uwch-dechnoleg, a bydd yn darparu sgiliau lefel uchel ar gyfer cynorthwyo i ddatblygu ac arallgyfeirio gweithlu’r presennol a’r dyfodol ar gyfer nifer o gyflogwyr o bob rhan o Gymru. Gallaf ddweud gyda phleser ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu o’r radd flaenaf i ddysgwyr ac i gymunedau Bro Morgannwg.”
Gellir dod o hyd i wefannau’r ymgynghoriad yma:
Y Ganolfan Uwch-dechnoleg: https://www.atc-consultation.co.uk/
Campws Glannau’r Barri: www.bwc-consultation.co.uk