Yr wythnos nesaf bydd digwyddiad poblogaidd Milltir Butetown yn cael ei gynnal, gyda Choleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn brif noddwr balch ochr yn ochr ag Ysgol Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
Bydd tîm o redwyr sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn ymgymryd â'r her, sy’n cynnwys rhedeg, loncian neu gerdded milltir yn flynyddol ar hyd Stryd Bute yng Nghaerdydd.
Mae’r digwyddiad hanesyddol hwn a sefydlwyd yn y 1980au ac a ail-lansiwyd yn 2013, yn ddigwyddiad cyffrous gyda’r nod o ddod â’r gymuned at ei gilydd.
Mae Milltir Butetown yn addas ar gyfer rhedwyr o bob gallu, gyda dau sesiwn rhedeg yn cael eu cynnal ar y diwrnod -
Y Ras Elitaidd i rai dros 18 oed yn unig, gan ymgymryd â’r her o redeg milltir mewn llai na 7 munud.
Y Ras Hwyl ar gyfer y gymuned gyfan lle gall cyfranogwyr redeg, loncian neu gerdded y filltir.
Mae tîm CAVC yn cynnwys staff, myfyrwyr, llywodraethwyr a ffrindiau'r coleg yn cymryd rhan yn y diwrnod ac ar draws y ddwy ras.
Dywedodd Pennaeth CAVC, Sharon James: “Mae CAVC yn hynod falch o noddi Milltir Butetown eleni.
“Yn CAVC rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac mae cefnogi a chymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’n staff a’n myfyrwyr ni fod yn egnïol a dysgu mwy am hanes y ras wych yma.
“Pob lwc i'r rhedwyr gan bawb yn y Coleg!”
I ddysgu mwy am Filltir Butetown, gallwch ddod o hyd i fanylion yma.