Wythnos yma, bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi modiwlau Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth arwyddocaol ar gyfer y sector addysg bellach.
Yn ôl yn 2022, bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn ymroddi i wneud Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030 – y wlad gyntaf i wneud y fath ymrwymiad. Wrth graidd y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae’r cysyniad o ddatblygu cwricwlwm addysg bellach gwrth-hiliaeth.
Mae’r cwricwlwm ar ffurf metafyd – y byd rhithiol gwrth-hiliaeth gyntaf. Mae’r datblygiad arloesol hwn, a arweinir gan Goleg Caerdydd a’r Fro ar ran Llywodraeth Cymru, yn darparu profiad dysgu hygyrch a throchedig, a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o leiafrif ethnig o ysgolion, colegau, prifysgolion a thrydydd parti.
Fel y wlad gyntaf i fuddsoddi mewn cwricwlwm addysg bellach gwrth-hiliaeth rithiol, mae’r prosiect wedi gweld twf yn y nifer o gydweithrediadau gyda phartneriaid rhyngwladol ac arbenigwyr addysgiadol.
Mae’r metafyd – www.antiracism.wales – wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â MX Reality. Mae pedair rhan allweddol fydd yn galluogi defnyddwyr i gael profiadau gwerthfawr, gan gynnwys adnoddau ar gyfer ystod eang o feysydd pwnc, a’r gallu i wrando ar brofiadau bywyd pobl o gefndiroedd Ethnig Lleiafrifol. Bydd hefyd yn cynnwys Llinell Amser y Byd, y cyntaf o’i fath, a fydd yn darparu llinell amser o hanes gwirioneddol y byd, gan ehangu a dyfnhau'r cwricwlwm traddodiadol.
Bydd y deunyddiau’n cwmpasu ystod o lefelau a phynciau sy’n briodol ar gyfer dysgwyr ym mhob sefydliad addysg bellach yng Nghymru. Mae’r metafyd yn adnodd unigryw gyda pherthnasedd byd-eang a phosibiliadau i ddysgwyr yn fyd-eang.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ”Mae cwricwlwm cynhwysol o fudd i bawb, o bob cefndir ac ethnigrwydd.
Dyna pam rwy’n hynod falch o gefnogi’r modiwlau cwricwlwm gwrth-hiliaeth newydd ar gyfer y sector addysg bellach.
Bydd y prosiect blaenllaw hwn o gymorth i’n pobl ifanc a’n holl ddinasyddion dyfu, ffynu a deall ei gilydd, cam allweddol tuag at ein huchelgais o fod yn Gymru Gwrth-hiliaeth.
Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: “Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ei leoli yn yr ardal fwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru, ac yn llawn ymrwymo i’r agenda gwrth-hiliaeth. Rydym yn falch o arwain ar y buddsoddiad unigryw ac arloesol hwn o fewn y cwricwlwm Cymreig.
“Mae’r Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth yn cymryd cam yn y cyfeiriad cywir, ond nid yw’r gwaith yn darfod yma. Gyda gweledigaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru, gallwn barhau i fanteisio ar y cyfle anhygoel hwn drwy weithio gyda phartneriaid o bob sector er mwyn datblygu ein hadnoddau ac ehangu ar ein cynulleidfa.”