Mae tiwtor Prosiect SEARCH Coleg Caerdydd a’r Fro, Kerri Ince, wedi ennill Gwobr Tiwtor Inspire! am ei gwaith caled a'i hymroddiad i'w dysgwyr.
Yn cael eu dyfarnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, mae Gwobrau Tiwtoriaid Inspire! yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru.
Mae Kerri yn gweithio gyda dysgwyr Project SEARCH yn Dow Silicones yn y Barri. Mae Project SEARCH yn fenter ryngwladol a ddechreuodd yn UDA fwy nag 20 mlynedd yn ôl gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol - fel interniaethau gyda chwmnïau fel Dow Silicones.
Gan helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, mae Kerri wedi cefnogi 64 o reolwyr a mentoriaid sy’n gweithio gyda mwy na 70 o interniaid yn Dow a Phrifysgol Caerdydd ers i’r Coleg ymuno â Phrosiect SEARCH. Mae hi hefyd wedi gorfod goresgyn heriau personol, gan gynnwys diagnosis o ganser, ond mae hi wedi gorffen cael triniaeth nawr.
Mae Kerri yn ymdrechu i fod yn fodel rôl i’w holl ddysgwyr, drwy greu amgylchedd dysgu sy’n diwallu anghenion unigolion sydd angen cymhorthion ac addasiadau amrywiol sy’n ysgogol, yn ysbrydoledig, yn ymarferol, ac yn real.
“Rydw i’n hynod falch ac yn teimlo’n freintiedig iawn o gael gweithio gyda chydweithwyr sy’n fy mharchu i ac yn gweld y gwaith rydw i’n ei wneud,” meddai Kerri. “Mae hyn yn tynnu sylw at ba mor bwysig ydw i ym myd cymaint o bobl rydw i’n eu haddysgu a’u cefnogi, ac fe fydda’ i’n parhau i wneud hynny.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau Kerri! Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud fel rhan o Brosiect SEARCH mor werthfawr ac yn newid bywydau cymaint o bobl ifanc fel eich bod yn enillydd haeddiannol iawn o’r wobr yma.”