Mae tri o ddysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael y fraint o ddod yn Gadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Morgannwg Ganol.
Bydd y Cadet galluog Ann-Maria Petter o Gorfflu Cadetiaid Môr Porthcawl, y Rhingyll Hedfan Emily Richards o Gadetiaid Awyr yr RAF, Adain 1 Cymru, a Chadet Corporal Casey Garland o Lu Cadetiaid Cyfun CAVC yn eu swyddi am y flwyddyn nesaf. Dyma’r tro cyntaf i gadet CCF yn CAVC gael ei benodi’n Gadet yr Arglwydd Raglaw.
Byddant yn awr yn mynd gyda chynrychiolydd y Brenin dros Forgannwg Ganol, yr Arglwydd Raglaw yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ, ar ei ddyletswyddau swyddogol.
Mae Anna-Maria ac Emily Richards ill dwy yn ddysgwyr Safon Uwch yn y Coleg, ac mae Casey ar y cwrs Cysylltu â CAVC.
Dywedodd Casey: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd i mi gael fy enwi'n Gadet yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2023-24. Rydw i'n gyffrous ac yn nerfus am fod yn cynrychioli Ei Fawrhydi y Brenin, Cadetiaid y Fyddin a Choleg Caerdydd a'r Fro. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle yma."
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i Ann-Maria, Casey ac Emily gan bob un ohonom ni yma yn CAVC – bydd y flwyddyn nesaf yn cynnig profiadau anhygoel iddyn nhw. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin ar gyfer yr ardal yn dangos eu bod nhw’n amlwg yn ysbrydoliaeth i’w cyfoedion a’u cydweithwyr, sy’n rhywbeth y dylai pob un ohonyn nhw fod yn falch iawn ohono.”