Y penwythnos hwn, bydd bron i 2,000 o gystadleuwyr ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Gerdd Dant fawreddog a gynhelir gan Goleg Caerdydd a’r Fro.
Mae’r ŵyl flynyddol yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol, sef ein dathliad o’r traddodiad Cymreig sy’n cynnwys canu’r delyn. Gellir cystadlu gyda disgyblaethau eraill hefyd, fel canu gwerin, adrodd, dawnsio gwerin a chwarae’r delyn.
Dywedodd Pennaeth CAVC, Sharon James: “Mae CAVC wedi’i leoli yng nghanol Prifddinas Cymru, ac rydym yn eithriadol o falch o’n treftadaeth. Rydym yn falch o fod yn cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant genedlaethol hon ac yn dathlu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg drwy’r digwyddiad hanesyddol hwn.”
Gallwch wylio’r diwrnod ar y teledu, gydag S4C yn darlledu’r digwyddiad cyfan o 3pm ymlaen!
Dysgwch fwy am yr ŵyl a sut i gael tocynnau ar y wefan swyddogol: https://www.cerdd-dant.org/cy/cartref