Dysgwr Lletygarwch Coleg Caerdydd a’r Fro, Ruby, yn y Ritz

22 Hyd 2023

Mae Ruby Pile, sy’n ddysgwr HND mewn Rheoli Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi bod yn gwneud rhywfaint o ymarfer ar gyfer pan fydd hi’n cynrychioli Cymru a’r DU yn WorldSkills Lyon 2024 gydag wythnos o brofiad gwaith yn y Ritz.

Yn ystod ei hwythnos yn y gwesty moethus pum seren enwog yn Llundain, bu Ruby yn gweithio llawer o shifftiau gan gynnwys brecwast, cinio, swper, te prynhawn ac yn y bar.

“Fe wnes i fwynhau’r profiad yn y Ritz yn fawr iawn – roedd yn anhygoel,” dywedodd Ruby, sydd hefyd yn gweithio yng ngwesty nodedig Lucknam Park fel cogydd de rang ym Mwyty Hywel Jones ochr yn ochr â’i hastudiaethau. “Fe wnes i fwynhau dysgu sgiliau newydd, y math o wasanaethau a chwrdd â gweithwyr proffesiynol mor fedrus yn ystod fy amser i yn y Ritz.”

Trefnwyd profiad gwaith Ruby yn y Ritz gan ei rheolwr hyfforddi WorldSkills UK ac Inspiring Skills. Mae’n rhan o’i hyfforddiant ar gyfer rowndiau terfynol rhyngwladol WorldSkills, sy’n cael eu galw hefyd yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, lle bydd yn cystadlu dros Dîm y DU yn y categori Gwasanaeth Bwyty.

“Rydw i’n credu y bydd y profiad yn fy helpu i baratoi ar gyfer WorldSkills Lyon gan fod llawer o elfennau ar draws y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer marciau uchel yn y gystadleuaeth,”
meddai Ruby. “Roedd yn wych cael cyngor ac awgrymiadau gan weithwyr proffesiynol yn yr amgylchedd yma.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i Ruby am y profiad gwych yma – does dim llawer o ddysgwyr Lletygarwch fedr ddweud eu bod nhw wedi gweithio yn un o westai enwocaf y byd! Mae doniau Ruby wedi disgleirio drwy gydol ei hamser gyda ni yn CAVC; mae nifer y cystadlaethau sgiliau y mae hi wedi ennill clod ynddyn nhw’n siarad drostynt eu hunain ac rydyn ni i gyd yn dymuno’r gorau iddi ar gyfer WorldSkills Lyon 2024.”