Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II 1926 – 2022

11 Medi 2022

Testun tristwch mawr i Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro oedd clywed am farwolaeth Ei Mawrhydi, Brenhines Elizabeth II. Mae CAVC yn anfon ei gydymdeimlad dwys i’r Brenin Charles III a’r Teulu Brenhinol.

Dros yr wythnos nesaf, bydd ein cymuned CAVC yn talu teyrnged yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi, Brenhines Elizabeth II. Byddwn yn aros ar agor a bydd addysgu a dysgu yn parhau yn ôl yr arfer i bawb, gyda chyfle i’r staff a myfyrwyr fyfyrio yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn ar gau ar ddydd Llun 19 Medi, fel Gŵyl y Banc ar gyfer angladd y Frenhines.

Yr wythnos hon, yn unol â’r canllaw swyddogol ar gyfer addysg, bydd yr holl addysgu a dysgu yn parhau yn ôl yr arfer, gan roi’r dechreuad mwyaf cefnogol a chroesawgar i’r holl fyfyrwyr ar ddechrau eu blwyddyn academaidd. Ar yr un pryd, caiff staff a myfyrwyr gyfle i fyfyrio ac i nodi marwolaeth Ei Mawrhydi. Bydd gan bob safle ardal neilltuol i fyfyrwyr a staff allu anfon neges drwy ddefnyddio Llyfr Cydymdeimlo swyddogol y Teulu Brenhinol. Bydd sesiynau tiwtorial ar Ei Mawrhydi, Brenhines Elizabeth II, yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio ar ei theyrnasiad a bydd cymorth ar gael i unrhyw un fydd yn profi galar dwys yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gemau chwaraeon yn parhau, gyda phob un yn cynnal munud o dawelwch er cof am y Frenhines. Bydd coeden yn cael ei phlannu hefyd yn yr Ardd Gofio ar Gampws Canol y Ddinas.

Dywedodd Mike James, Prif Weithredwr Grŵp CAVC a Geraint Evans MBE, Cadeirydd Corfforaeth Grŵp CAVC:

“Ar ran Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, ein staff a’n dysgwyr, ymunwn â gweddill y wlad, a phobl ar draws y byd, wrth gyfleu ein tristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi, Brenhines Elizabeth II.

“Fel y teyrn a deyrnasodd hiraf yn hanes Prydain, cafodd Ei Mawrhydi ei pharchu ar draws y byd am ei dyletswydd a’i hymroddiad drwy gydol y 70 o flynyddoedd a welodd newid sylweddol. Roedd hi’n gyson bresennol ym mywyd pob un ohonom, a chaiff ei hedmygu am byth am ei hymroddiad ysbrydoledig wrth wasanaethu.


“Mae ein cymuned CAVC yn anfon ei chydymdeimlad dwys i’r Brenin Charles III a’r Teulu Brenhinol.”