Blwyddyn arall o lwyddiant heb ei hail yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch a BTEC

17 Awst 2022

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro'n dathlu blwyddyn heb ei hail o lwyddiant ar ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch a BTEC.

Mae'r canlyniadau’n adeiladu ar y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y myfyrwyr sy'n cyflawni gradd A yn eu Safon Uwch, gyda'r nifer uchaf erioed o ddysgwyr yn cyflawni graddau A* ac A ar draws y pynciau, ac mae'r nifer o fyfyrwyr sydd wedi cyflawni gradd A yn uwch nag erioed hefyd. Mae'r Coleg hefyd wedi profi mwy o ddisgyblion yn ymgymryd â chyrsiau UG ac A2, gyda 646 o ddysgwyr Safon Uwch yn cael eu canlyniadau heddiw ar draws dros 30 o bynciau maes gwahanol.

Fel un o ddarparwyr cymwysterau BTEC mwyaf y wlad, mae tua 1,000 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau BTEC yn y Coleg bob blwyddyn, yn astudio pynciau sy'n amrywio o Seiberddiogelwch, E-chwaraeon, Chwaraeon, Ffotograffiaeth, a Gwyddoniaeth Gymhwysol. Mae unigolion sy'n cael graddau BTEC heddiw'n cael pwyntiau UCAS hefyd, fel dysgwyr Safon Uwch.

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rwyf mor falch o weld cyn nifer o'n myfyrwyr yn cyrraedd y campws i ddysgu eu bod wedi gwneud yn arbennig o dda yn ein diwrnod canlyniadau cyntaf ar ôl y pandemig.

"Mae wedi bod yn galonogol gwylio myfyrwyr a staff yn dod ynghyd i oresgyn y cyfyngiadau oherwydd COVID-19 yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio Safon Uwch. Mae gwaith caled a natur benderfynol myfyrwyr wir wedi talu ar ei ganfed, a heddiw, rydym yn dymuno'r gorau iddynt wrth iddynt symud ymlaen i brifysgolion blaenllaw, dysgu pellach neu gyflogaeth.

"Diolch i'r myfyrwyr a'r staff am ymrwymo cymaint i'w gwaith er mwyn sicrhau'r llwyddiannau hyn."

Mae dysgwyr Safon Uwch a BTEC CAVC yn cael cymorth gan dîm Gyrfaoedd a Syniadau'r Coleg er mwyn gwneud cais i brifysgol, gyda dros 600 o ddysgwyr yn gwneud cais drwy UCAS eleni. Bydd nifer sylweddol o fyfyrwyr CAVC bellach yn symud ymlaen o Astudio Safon Uwch a BTEC i astudio Addysg Uwch, gan gynnwys prifysgolion Caergrawnt, Rhydychen, y Grŵp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill ledled y DU.

Un o fyfyrwyr CAVC sydd wedi manteisio ar gynnig y Coleg, yw myfyriwr Safon Uwch, Annis Wiltshire, sydd wedi cyflawni A* mewn Gwareiddiau Clasurol, A mewn Cemeg, a gradd Ragoriaeth lefel Tri mewn Safbwyntiau ac Ymchwil Byd-eang, ac mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Rhydychen i astudio'r Clasuron.

"Rwyf wedi synnu'n llwyr," meddai Annis. "Nid oeddwn i'n disgwyl ennill y graddau roedd eu hangen arnaf i, felly rwyf ar ben fy nigon, ac yn hynod ddiolchgar. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn astudio yn CAVC - rwyf wedi cael cwrdd â nifer o bobl ac rwy'n drist fy mod yn gorfod gadael. Mynd i CAVC oedd y dewis gorau i mi ei wneud erioed."

Cofrestrodd Annis ar gyfer Rhaglen Ysgolheigion CAVC, sydd wedi'i chynllunio i gynnig cyfle i ddysgwyr ehangu eu profiad dysgu y tu hwnt i gwricwlwm traddodiadol Safon Uwch, a chynnig cymorth wrth ymgeisio i brifysgolion elitaidd.

"Y peth gorau am y Coleg oedd y tiwtoriaid," meddai Annis, sy'n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd. "Roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi, yn academaidd a gyda fy llesiant, ac roeddwn i wrth fy modd yn dod i'r Coleg, yn enwedig ar gyfer fy ngwersi'n astudio'r Clasuron.

"Dewisais CAVC oherwydd fy mod wir eisiau astudio'r cwrs Clasuron Safon Uwch. Roeddwn i hefyd wedi clywed bod CAVC yn canolbwyntio ar gynwysoldeb a derbyn, yn ogystal â chymorth
...nad oeddwn wedi ei gael drwy'r ysgol uwchradd.

"Mae fy athrawon wedi fy helpu i gymaint, nid yn unig drwy addysgu, ond drwy fy helpu i wneud cais ar gyfer y brifysgol, yn ogystal â chefnogi fy llesiant yn gyffredinol. Cefais hefyd gefnogaeth arbennig gyda fy Anawsterau Dysgu Penodol gan yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol, a oedd bob amser mor galonogol ac wedi gwneud fy mhrofiad yn y Coleg yn haws a mwy pleserus o lawer."

Cyflawnodd Aya Idris, o Gaerdydd, A* mewn Mathemateg, Cemeg ac Arabeg ac A mewn Bioleg. Bydd hi nawr yn teithio i UWE Bryste i astudio Gwyddor Fforensig.



"Nid oeddwn yn disgwyl cyflawni'r canlyniadau hyn gan fod yr arholiadau mor anodd,"
dywedodd Aya. "Rwyf mor hapus ac yn llawn rhyddhad - mae fy rhieni'n hapus hefyd.

"Cefais amser gwych yn y Coleg. Roeddwn i wir yn mwynhau dod i'r Coleg yn ystod yr ail flwyddyn – rwy'n meddwl bod cwrdd â phobl ifanc a gwneud ffrindiau newydd wedi helpu. Ar ôl gorffen fy ngradd, rwy'n gobeithio dod yn Archwiliwr Golygfa Trosedd, a dyna pam fy mod wedi ymgymryd â'r pynciau Safon Uwch hyn."

Astudiodd Naima Khan BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, gan gyflawni graddau Rhagoriaeth*, Rhagoriaeth a Rhagoriaeth.

"Dewisais CAVC oherwydd fy mod wedi clywed ei fod yn lle agored, cyfeillgar, diduedd a braf i fod ynddo," meddai Naima, sy'n 19 oed ac yn dod o Gaerdydd. "Yn fy mhrofiad i, mae'r Coleg fel teulu, ac rwyf wastad wedi cael y cymorth oedd ei angen arnaf i.

"Rwyf am astudio Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Met Caerdydd - sy'n yrfa rwyf o hyd wedi bod â diddordeb ynddi."

Cyflawnodd Saffron Vanderkolk-Pellow, 18 oed, o Gaerdydd, graddau A yn Saesneg a Chymdeithaseg a graddau B mewn Saesneg a Chymdeithaseg. Yn ogystal, bu Saffron yn Llywodraethwr Myfyrwyr ac yn Swyddog Sabothol. Yn y coleg bu’n cyflwyno mewn amryw o ddigwyddiadau gan gynnwys y Senedd, gan annog pobl ifanc i bleidleisio. Mae hi'n mynd i Brifysgol Plymouth i astudio Daearyddiaeth gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.



"Rwy'n falch iawn o fy nghanlyniadau - mae'n sioc i ddweud y gwir,"
meddai.

"Rwyf wedi cael amser gwych yma; roeddwn wrth fy modd yn ystod y ddwy flynedd olaf yn y Coleg. Rwy'n meddwl bod yr awyrgylch yn arbennig, ac mae safon yr addysgu wedi bod yn wych - ni fyddwn i wedi llwyddo hebddo.

"Dewisais y Coleg oherwydd fy mod yn credu y byddwn yn cael mwy o ryddid, na fyddwn yn ei gael yn yr ysgol. Rwyf eisiau bod yn beilot ac mae'r Coleg yn sicr wedi fy helpu i'm rhoi ar ben ffordd er mwyn cyflawni fy nodau."

Cyflawnodd Sam Nicholls raddau A yn y Gyfraith, Bioleg ac Ymarfer Corff. Bydd Sam, sy'n 19 oed ac yn dod o Borthcawl, nawr yn mynd i Brifysgol Birmingham i astudio Economeg.



"Rwyf wedi gwirioni!"
meddai am ei ganlyniadau. "Ond rwyf wedi gweithio'n galed iawn. Rwyf wir ar ben fy nigon.

"Mae'r athrawon wedi bod yn arbennig ac yn fwy na pharod i helpu, ac wedi fy helpu i gyrraedd yma. Rwyf wedi cael amser arbennig yn y Coleg.

"Rwy'n gobeithio dilyn gyrfa yn y maes bancio neu gyfrifeg; gwaith a fydd yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy ngradd. Heb amheuaeth, mae'r Coleg wedi fy helpu i gyflawni hynny."

Cyflawnodd Faiz Zia, sy'n 19 oed o Gaerdydd, radd B mewn Cymdeithaseg a C mewn Astudiaethau Crefyddol, ac mae'n mynd i Brifysgol Manceinion i astudio Troseddeg a Chymdeithaseg.

"Rwyf wedi gwneud yn well na'r disgwyl," meddai. "Roedd pethau'n heriol ar y dechrau, ond aeth pethau'n well.

"Rwyf wir wedi cael amser da yn y Coleg. Rwy'n dod o Rotherham yn wreiddiol, ond mae fy nain a taid yn byw yng Nghasnewydd, felly penderfynais fy mod eisiau astudio yng Nghymru, ac rwyf wedi mwynhau'n arw.

"Mae staff y Coleg wedi bod yn fwy na pharod i helpu, ac mae'r diwylliant yn hynod o gefnogol a chalonogol. Rwyf wir wedi mwynhau fy amser yma."

Ond nid yw Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch a BTEC am y brifysgol yn unig. Mae Ffion Llewllyn, 19 oed o gyffiniau Casnewydd, yn symud ymlaen at brentisiaeth gyda'r BBC ar ôl cyflawni gradd A mewn Daearyddiaeth a graddau B mewn Busnes a Chelf.



"Rwyf wedi synnu yn fwy na dim!"
meddai. "Rwy'n edrych ymlaen yn arw ar ddechrau ar brentisiaeth gyda'r BBC. Rwy'n dechrau mewn tua mis, ac rwyf wedi siarad ag ambell i berson sy'n gweithio yno, ac mae pawb yn ymddangos i fod yn garedig iawn."

Roedd Ffion yn rhan o garfan gyntaf Academi Jason Mohammad, lle gall myfyrwyr ddysgu sgiliau newyddiaduriaeth ddigidol ochr yn ochr â'u cwrs dan arweiniad y cyflwynydd radio a theledu.

"Roedd Academi Jason Mohammad yn wych," meddai Ffion. "Ni fyddwn wedi dewis y BBC oni bai am yr Academi Cyfryngau. Rwy'n teimlo'n fwy trist am adael y Coleg nag oeddwn i pan oeddwn yn gadael yr ysgol."

Astudiodd Luke Pilcher Ddiploma Estynedig BTEC mewn Cyfrifiadureg. Ar ôl cyflawni’r graddau uchaf bosib, tri dyfarniad Rhagriaeth*, mae wedi cael ei gyflogi gan Avantis Marine fel prentis trydanol a pheiriannydd rhwydwaith.

"Cefais brofiad arbennig yn CAVC," meddai Luke, sy'n 22 oed ac o Faesteg. "Roedd y staff yn arbennig drwy gydol fy nghyfnod yno, ac rwyf mor ddiolchgar o'r cymorth rwyf wedi'i gael ganddynt."

Cyflawnodd Beth Hughes, sy'n 18, a hefyd yn dod o Gasnewydd, radd A* mewn Saesneg a graddau A mewn Hanes a Ffilm. Bydd hi'n mynd i Brifysgol Sba Caerfaddon i astudio Ffilm.



"Rwy'n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau,"
meddai. "Nid oeddwn i'n disgwyl y canlyniadau yma ar ôl straen COVID, felly rwyf wir wedi synnu.

"Rwyf wedi mwynhau fy amser yn y Coleg yn fawr. Roeddwn wrth fy modd â'r annibyniaeth a'r rhyddid roeddwn i wedi'i brofi. Dewisais y Coleg er mwyn cael ymdeimlad o annibyniaeth ac ennill ymdeimlad o bontio o'r ysgol i'r brifysgol.

"Mae cymorth fy athrawon wedi bod mor bwysig, ac roedd hynny'n wych."

Cyflawnodd Ellie Davies, 18 oed o'r Barri, radd A mewn Seicoleg a graddau B mewn Bioleg a Chemeg, a bydd hithau'n mynd i Brifysgol Sba Caerfaddon. I astudio Gwyddorau Fforensig.

"Rwyf dan deimlad," meddai. "Yn sicr, nid oeddwn yn disgwyl y canlyniadau hyn. Roeddwn wedi paratoi fy hun am y gwaethaf, ond rwy'n falch iawn gyda'r canlyniadau!

"Roedd y flwyddyn gyntaf yn heriol wrth ddysgu dan amgylchiadau COVID, ond ar ôl dechrau dod i'r Coleg, roedd yn hwyl cyfarfod pobl newydd a chael profiadau newydd. Roeddwn yn teimlo'n fwy annibynnol hefyd."

Yn CAVC, caiff myfyrwyr eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau i wella eu hunain a rhoi hwb ychwanegol i'w cyflogadwyedd. Cymerodd Ellie ran mewn cystadlaethau Gwyddor Fforensig yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills Uk - yn ennill y wobr aur a gwobr uchel ei fri o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru lle'r oedd hi'n cystadlu yn erbyn pobl a oedd eisoes yn astudio graddau baglor neu raddau Meistr.

"Ar y dechrau, roeddwn i'n nerfus iawn, ond rwyf mor falch fy mod wedi penderfynu mynd amdani,"
meddai Ellie. "Roeddwn i'n hynod falch o fod wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkillsUK pan gefais son amdano ar fy natganiad personol!"

Mae CAVC hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw eraill ar gyfer yr holl fyfyrwyr ochr yn ochr â'u hastudiaethau, gan gynnwys academïau chwaraeon adnabyddus. Cyflawnodd ddau gapten, Tom Caple, capten Academi Rygbi CAVC a Josh Brown, capten Academi Pêl-fasged CAVC, yn academaidd ochr yn ochr â chwarae dros CAVC a'u gwlad yn eu chwaraeon eu hunain.

Mae Tom Caple, Capten Academi Rygbi CAVC a dysgwr Sadfon Uwch, yn mynd i'r brifysgol i astudio Peirianneg Sifil, wedi iddo gael graddau gwych mewn Economeg, Mathemateg a Phiseg yn ei Safon Uwch.



"Rwyf wir wedi cael modd i fyw yn y Coleg - yn enwedig bod yn Gapten yr Academi Rygbi, yn ennill y gyfraith a meithrin cysylltiadau gyda'r bechgyn a mynd ar daith ddiwylliannol i Dde Affrica"
meddai'r bachgen 18 oed o Gaerdydd.

"Rwyf eisiau bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, ond rwyf eisiau ennill gradd ar gyfer y dyfodol. Heb os, mae'r Coleg wedi fy helpu i gyrraedd fy nodau – nid wyf yn credu y byddwn wedi llwyddo oni bai am yr holl help rwyf wedi'i gael yn y Coleg."

Astudiodd Josh Brown Ddiploma Estynedig BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd raddau Rhagoriaeth a Dau Deilyngdod.

"Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn y coleg ac rwy'n teimlo fy mod wedi ennill sgiliau trosglwyddadwy gwych o fy nghwrs yn y diwydiannau Busnes a Chwaraewr," meddai'r bachgen 19 oed o Gaerdydd. "Ar ôl blwyddyn allan i feithrin fy sgiliau hyfforddi, rwy'n bwriadu mynd ymlaen i Brifysgol Solent i astudio Hyfforddi Chwaraeon. Fi yw capten y tîm Pêl-fasged yn CAVC, ac roeddwn i wir wedi mwynhau mynd ar daith gyda'r garfan ar gyfer twrnament yn Nottingham."