Dathlodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr i astudio yn Academi Jason Mohammad eu graddio ar ddydd Gwener 24 Mehefin, gan fwynhau lluniaeth a fideo o’u cynyrchiadau yn ystod eu hastudiaethau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC).
Lansiodd y cyflwynydd radio a theledu a’r darlledwr Jason Mohammad yr Academi yn 2021 ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ar y radio.
Dros y rhaglen flwyddyn, mae aelodau’r Academi yn cael cyflwyniad manwl i’r cyfryngau a newyddiaduraeth gan un o ddarlledwyr mwyaf profiadol y DU, gan ychwanegu sgiliau a phrofiad hanfodol i’w CV a fydd yn eu helpu i sefyll allan o’r dorf ar ôl iddynt orffen yn y coleg.
Dywedodd Jason: “Yr Academi hon yw un o uchafbwyntiau fy ngyrfa 25 mlynedd. Wrth ei lansio, roeddem yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth o dalent ifanc - ond mae’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn llawer mwy pwerus na hynny. Mae ein graddedigion wedi creu cynnwys gwych, mae eu sgiliau wedi gwella a’u hyder wedi saethu i fyny. Maen nhw nawr yn credu’r hyn a ddywedais ar y dechrau: y gallant gyflawni unrhyw beth yn y diwydiannau creadigol, ni waeth ble maent yn byw na i ba ysgol yr aethant iddi. Rydym wedi ysgogi cred ynddynt a fydd yn para am oes.”
Ychwanegodd Kay Martin, Pennaeth Grŵp CAVC: “Rydym yn falch iawn bod blwyddyn gyntaf Academi Jason Mohammad wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Mae’r myfyrwyr i gyd wedi elwa’n fawr o’r rhaglen, ac mae’n wych gweld sut maen nhw wedi datblygu eu harbenigedd trwy weithio gyda Jason ac ymgysylltu â gwahanol fathau o gyfryngau. Rydym nawr yn edrych ymlaen at groesawu carfan flwyddyn nesaf i’r Academi.”
Bydd y rhaglen hon yn cael ei chynnal eto yn nhymor academaidd 2022–2023 gyda chwricwlwm diwygiedig, bydd manylion pellach am hyn yn cael eu cyhoeddi’n fuan.