Myfyrwraig Coleg Caerdydd a’r Fro, Ffion, yn ennill gwobr am ei hymrwymiad eithriadol i’r Gymraeg

23 Meh 2022

Mae Ffion Llewellyn, myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi ennill Gwobr CAVC am ei Hymrwymiad Eithriadol i’r Iaith Gymraeg.

Mae CAVC yn falch o’i dreftadaeth Gymreig a phenderfynodd greu’r wobr arbennig hon i ddathlu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ac i wobrwyo dysgwyr sy’n dangos eu hymrwymiad iddi. Noddir y wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cafodd Ffion, sy’n 18 oed ac yn dod o Dŷ-du ger Casnewydd, ei dewis fel enillydd y wobr eleni am yr ymrwymiad rhagorol i’r Gymraeg y mae hi wedi’i ddangos yn ystod ei chyfnod yn y Coleg.

Ymunodd â chynllun Llysgenhadon Cymraeg CAVC i ddechrau yn 2021 ac mae bob amser wedi bod yn llawn brwdfrydedd a syniadau i godi proffil y Gymraeg ar draws y Coleg mewn ffordd hwyliog a difyr – er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan y pandemig. Sefydlodd foreau coffi wythnosol ar gyfer clwb dysgwyr Cymraeg CAVC ac mae wedi cymryd yr awenau gyda’r cyfrif TikTok Dysgu Cymraeg ac wedi cymryd rhan mewn podlediadau a darllediadau lles Cymraeg fel rhan o Academi Cyfryngau Jason Mohammad y Coleg.

Mae Ffion hefyd wedi cynrychioli CAVC ar S4C, gan drafod podlediadau a faint o effaith maen nhw’n ei chael ar bobl ifanc.

“Rydw i’n teimlo’n dda iawn am ennill y Wobr Ymrwymiad Eithriadol i’r Iaith Gymraeg,” meddai Ffion. “Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy enwebu hyd yn oed, heb sôn am ennill.

“Bydd yn golygu llawer i fy nheulu gan eu bod nhw’n siaradwyr Cymraeg, felly mae hynny’n golygu llawer i mi hefyd.”

Mae Ffion, a aeth i ysgol Gymraeg ac sydd â theulu Cymraeg ei iaith, yn credu bod cefnogaeth CAVC i ddwyieithrwydd yn hollbwysig.

“Rydw i’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn bod y Coleg yn hybu’r Gymraeg,” meddai. “Yn dod o ysgol uwchradd Gymraeg roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n teimlo ar goll braidd, yn gwybod dim ond terminoleg Gymraeg, ond rydw i wedi gallu ymuno â chlybiau Cymraeg a gwneud rhai o fy mhynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Wrth siarad am ei hamser yn CAVC a’i rhan yn y cynllun Llysgenhadon Cymraeg a chlybiau Cymraeg, dywedodd Ffion:

“Yr hyn rydw i wedi’i fwynhau fwyaf am fy amser yn y Coleg yw cymaint rydw i wedi tyfu. Rydw i wedi dysgu mwy nag y gallwn i erioed ei wneud yn unrhyw le arall.

“Rydw i wedi cael llawer o gyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd fel y cyfryngau a gwahanol arddulliau celf. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac rydw i wedi dechrau clybiau ac wedi estyn allan at bobl newydd sydd eisiau siarad am les neu gerddoriaeth - mae wedi rhoi cymaint mwy o hyder i mi.”

Un cyfle a dderbyniodd Ffion yn frwd yn ystod ei chyfnod yn CAVC oedd Academi Jason Mohammad. Yn cael ei gweithredu ochr yn ochr â’r cyflwynydd radio a theledu – a chyn-fyfyriwr yn CAVC – Jason Mohammad, mae’r Academi yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau darlledu a chyfryngau ochr yn ochr â’u cwrs arferol.

“Un cyflawniad oedd yn arbennig iawn i mi oedd gweithio gyda Jason Mohammad yn yr Academi,” esboniodd Ffion. “Doeddwn i erioed wedi meddwl am weithio yn y cyfryngau o’r blaen, ond fe benderfynais i roi cynnig arni.

“Ers hynny rydw i wedi gwneud podlediadau, sioeau teledu a darllediadau radio – rhai ohonyn nhw’n fyw. Rydw i wedi darllen awtociw ac rydw i wedi gwneud y pethau yma yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n un o fy llwyddiannau mwyaf i yn y Coleg.”

Bwriad Ffion yw symud ymlaen i astudio Darlunio yn y brifysgol, ond mae Academi Jason Mohammad wedi agor ei llygaid hefyd i'r posibilrwydd o gael gyrfa yn y cyfryngau.

“Rydw i wastad wedi caru celf ac fe fyddwn i wrth fy modd yn cadw hynny fel rhan o fy mywyd i,” meddai. “Er hynny, ar ôl gwneud Academi Jason Mohamad, fe fyddwn i wir yn mwynhau unrhyw beth i'w wneud â'r cyfryngau; siarad cyhoeddus, podlediadau, sioeau teledu neu radio. Felly, rydw i wedi gwneud cais am gwpl o brentisiaethau cyfryngau hefyd i gael troed yn nrws y diwydiant hwnnw oherwydd rydw i wedi dod o hyd i angerdd doeddwn i erioed yn gwybod oedd gen i.

“Mae’r Coleg yn bendant wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae rhywun ar gael bob amser i siarad â nhw pan mae gennych chi unrhyw broblemau – ac mae fy nhiwtoriaid i wedi bod yn debycach i ffrindiau ac mae fy athro tiwtorial i’n hyfryd iawn.

“Ac rydw i’n meddwl, drwy wneud y clybiau, rydw i’n meddwl ei fod wedi gwneud i fwy o bobl estyn allan at bobl eraill, felly hyd yn oed os nad ydych chi eisiau estyn allan at diwtoriaid, rydych chi’n estyn allan at eich gilydd – mae’n gymuned braf i’w chael.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau Ffion! Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydyn ni’n dathlu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ac mae gwaith Ffion yn ein helpu ni i wneud hynny wedi bod yn wych eleni.

“Rydyn ni’n falch o fod yn Gymry ac yn credu bod gan bawb yr hawl i gyfathrebu â ni a dysgu gyda ni yn y Gymraeg. Dyna pam rydyn ni mor falch o roi’r wobr yma i Ffion am ei hymrwymiad arbennig – dyma ein ffordd ni o ddathlu aelodau Teulu CAVC sydd wedi rhagori gyda’u sgiliau Cymraeg.”