Academïau Chwaraeon Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu eu tymor gorau erioed

20 Meh 2022

Mae Academïau Chwaraeon Coleg Caerdydd a’r Fro wedi bownsio’n ôl o’r cyfyngiadau a roddwyd ar chwaraeon yn ystod y pandemig i ddathlu eu tymor gorau erioed yn 2021-22.

Mae’r Academïau wedi gweld mwy o fyfyrwyr yn cymryd rhan fel chwaraewyr nag erioed o’r blaen ac maent wedi dod â’r nifer uchaf erioed o gwpanau a tharianau adref mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae nifer y chwaraewyr sydd wedi derbyn anrhydeddau rhanbarthol a chenedlaethol wedi cynyddu'n aruthrol hefyd.

Y tymor yma, enillodd yr Academi Bêl Fasged Bencampwriaethau Pêl Fasged Cymru Cymdeithas y Colegau ar ôl cystadlu am y tro cyntaf, gan symud ymlaen i gynrychioli Pêl Fasged Colegau Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau ym Mhrifysgol Nottingham. Cynrychiolodd y Capten Josh Brown Bêl Fasged Cymru Dan 18 a chafodd ei enwi hefyd yn gapten Colegau Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau.

Gwelodd yr Academi Griced naw o'i chwaraewyr yn derbyn capiau am gynrychioli Cymru. Mae eu gemau olaf yn erbyn Ysgol Wellington ar ddydd Mawrth 28ain a dydd Mercher 29ain Mehefin, lle byddant yn chwarae gêm 50 pelawd a 20-20 ar ddyddiau olynol.

Roedd yr Academi Bêl Droed yn enillwyr cynghrair CAT2 Cymdeithas Bêl Droed Colegau Lloegr, ac enillodd myfyrwyr o’n hadran ILS Dwrnamaint Pêl Droed Ability Counts Colegau Cymru, gan symud ymlaen i gynrychioli Colegau Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau.

Ym myd rygbi’r merched, cafodd yr Academi ei chynrychiolydd Cenedlaethol Hŷn cyntaf dros Gymru, Gabby Healan. Roedd Gabby hefyd yn un o bedwar o chwaraewyr a gynrychiolodd Gymru ar lefel Dan 18.

Cynrychiolodd Rachel Thomas-Evans Gymru mewn rygbi cyffwrdd a chynrychiolodd 11 chwaraewr Gaerdydd yn y tîm Dan 18 rhanbarthol. Bu Millie Purchase-Smith, chwaraewraig yn yr Academi Rygbi, yn cynrychioli Cymru mewn polo dŵr hefyd.

Ac ym myd rygbi’r dynion, llwyddodd chwe chwaraewr i gael lle yng ngharfan genedlaethol Dan 18 Cymru a dau ar y lefel Dan 20. Hefyd bu William Hawker yn cynrychioli Cymru gydag Athletau Cymru Dan 20. Roedd nifer sylweddol o chwaraewyr rygbi’r Coleg yn cynrychioli eu rhanbarth hefyd.

Yn olaf, yn uchafbwynt gêm hynod gystadleuol yn Stadiwm y Principality a ddangoswyd ar y teledu, enillodd yr Academi Rygbi gwpan Cynghrair Ysgolion a Cholegau URC, gan gyhoeddi mai dyma’r tîm coleg gorau yng Nghymru.

Dywedodd Pennaeth Grŵp CAVC, Kay Martin: "A“r ôl dwy flynedd hynod anodd a heriol pan gafodd digwyddiadau chwaraeon eu cyfyngu’n ddifrifol, fe ddaeth Academïau Chwaraeon CAVC allan yr ochr arall yn barod am frwydr yn sicr.

“Mae ein Hacademïau ni yn meithrin ac yn datblygu rhagoriaeth chwaraeon a hefyd yn cefnogi anghenion addysgol y chwaraewyr, ac mae’r canlyniadau eleni wedi bod yn rhagorol. Rydyn ni i gyd yn hynod falch ohonyn nhw i gyd, ac o’r staff a’r hyfforddwyr arbenigol sy’n gweithio mor galed y tu ôl i’r llenni i gefnogi llwyddiant chwaraeon o’r fath.”

Mae Academïau Chwaraeon CAVC yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Maent yn darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu hwnt i chwaraeon hefyd.

Diddordeb mewn ymuno ag Academi Chwaraeon yn CAVC? Gallwch gofrestru eich diddordeb nawr cyn y tymor – ewch i https://cavc.ac.uk/cy/sportsacademies am ragor o wybodaeth.