Cyflwyno Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol i Goleg Caerdydd a’r Fro am raglenni hyfforddi a datblygu sgiliau rhagorol

16 Rhag 2022

Mae Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James, wedi derbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn 2022 am ymrwymiad eithriadol CAVC i ddysgu a datblygu.

Mae Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, fel Llywydd City & Guilds, yn gwobrwyo cyflogwyr sydd â rhaglenni hyfforddi a datblygu sgiliau rhagorol sydd wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu busnes neu eu staff.

Mae gan CAVC, fel un o golegau mwyaf y DU, ymrwymiad i sicrhau darpariaeth addysgu o safon uchel drwy ddatblygu sgiliau digidol ei staff. Hyd yma, mae mwy na 200 o gyflogeion wedi ennill cymwysterau proffesiynol, gyda manteision i berfformiad staff a dysgwyr.

Profodd y pwyslais yma ar fuddsoddi mewn sgiliau digidol yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig, gan fod y Coleg wedi gallu addasu a newid yn gyflym ac yn hyderus i weithio, dysgu a datblygu ar-lein.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Roedd yn anrhydedd derbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol gan y Dywysoges Frenhinol ei hun. Fel sefydliad dysgu rydyn ni’n gosod sgiliau a datblygiad Teulu cyfan CAVC – y staff, y myfyrwyr a’r gymuned – wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Hefyd, fel y Coleg Arddangos Microsoft cyntaf yng Nghymru, rydyn ni’n credu’n gryf yn y manteision o gael ystod eang o sgiliau digidol. Roedd hyn yn ein galluogi ni i fod â chynllun cadarn yn ei le i ymdrin â dysgu, a gweithio, yn ystod y cyfnodau clo.

“Hoffem ddiolch i’r Dywysoges Frenhinol am y wobr hon a’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd hyfforddiant i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a phwysigrwydd buddsoddi yn eich gweithlu. Rydyn ni’n falch iawn o Deulu CAVC ac yn arbennig o falch o fod wedi ennill y wobr hon.”