O ddydd Llun 14eg Tachwedd tan ddydd Gwener 18fed Tachwedd, bydd Campws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro yn un o chwe lleoliad coleg a’r unig un yng Nghymru i gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK.
Yn cael eu cynnal yn flaenorol yn yr NEC yn Birmingham, mae WorldSkills yn gyfle i fyfyrwyr a phrentisiaid gorau’r DU gystadlu am aur mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau ac yn gyfle i gystadlu yn Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills, sy’n cael eu galw yn fwy cyfarwydd yn “Gemau Olympaidd Sgiliau”.
Mae CCAF wedi cael ei ddewis i gynnal 14 o’r 62 o gystadlaethau – mwy nag unrhyw goleg arall yn y DU. Y cystadlaethau yw:
• Sgiliau Sylfaen: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Sgiliau Sylfaen: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnesau
• Sgiliau Sylfaen: Trin Gwallt
• Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty
• Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
• Sgiliau Sylfaen: Arlwyo
• Sgiliau Sylfaen: Cyfryngau
• Sgiliau Sylfaen: Cerbydau Modur
• Cynnal a Chadw Awyrennau
• Atgyweirio Cyrff Moduron
• Ailorffen Moduron
• Technoleg Moduron
• Peirianneg Cerbydau Trwm
Dywedodd Mike James, Cynrychiolydd WorldSkills o Gymru a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU y mis yma. Yn CCAF mae gennym ni gysylltiad maith a llwyddiannus gyda WorldSkills, ac mae hwn yn gyfle gwych i ddod â chyflogwyr a’r dalent ifanc orau yn y DU at ei gilydd yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf.
“Fe allwn ni hefyd fanteisio ar y cyfle yma i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer datblygu sgiliau mewn ystod eang o sectorau a diwydiannau, gan dynnu sylw at lwybrau gyrfa posibl i bobl ifanc.
“Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i ddymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr mewn gornest a fydd yn sicr yn un wefreiddiol.”
Sut gallwch chi gymryd rhan:
Ddydd Mercher 16eg a dydd Iau 17eg Tachwedd bydd CCAF yn cynnal profiad cyffrous i ymwelwyr gan roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog a rhyngweithiol. Bydd y rhain yn rhoi cipolwg real ar rai o'r cyfleoedd gyrfaol mwyaf cyffrous ym maes Adeiladu a Seilwaith, y Cyfryngau a Chreadigol, Peirianneg a Thechnoleg.
Bydd y Coleg hefyd yn cynnal Ffair Gyrfaoedd a Chynnydd, gan wahodd ystod eang o gyflogwyr o sectorau blaenoriaeth yn ogystal â sefydliadau addysgol a phrifysgolion. Bydd rhestr wych o siaradwyr gwadd ysbrydoledig gan gynnwys Sean Molino o Forces Fitness a Jamie McAnsh o See No Bounds. Gwahoddir ysgolion lleol i gymryd rhan mewn heriau sector-benodol gyda gwobrau i'w hennill!
Sut i archebu:
Mae CCAF yn croesawu cyflogwyr, ysgolion a cholegau i ddod draw i weld gweithgarwch y cystadlaethau a chymryd rhan yn ein gweithgareddau gyrfa rhyngweithiol neu i fod yn rhan o Ffair Gyrfaoedd a Chynnydd y Coleg. I gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma.
Ysgolion:
Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu drwy gysylltu ar schools@cavc.ac.uk.