Mae tîm Gyrfaoedd a Syniadau Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Gwobr Datblygu Gyrfaoedd (ôl-16) am ei ymrwymiad i wella ansawdd y cyngor a’r gefnogaeth mae’n eu rhoi i’w ddysgwyr yn barhaus.
Wedi’i dyfarnu gan Gyrfa Cymru, mae’r wobr wedi’i chynllunio i fodloni hawl statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (2008) i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru.
Dywedodd Steve Lester, Cydlynydd Gyrfaoedd a Byd Gwaith Gyrfa Cymru: “Llongyfarchiadau i Rebecca a’i thîm yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am ennill y Wobr Datblygu Gyrfaoedd (ôl-16). Fe gynlluniwyd y wobr yma’n benodol gan Gyrfa Cymru i gydnabod ymrwymiad sefydliad addysgol i wella ansawdd yn barhaus.
“Canolbwyntiodd Coleg Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, ar nifer o feysydd, gan gynnwys ymwybyddiaeth gyrfa a pharodrwydd ar gyfer pontio y dysgwyr, a sut gellir gwella lefelau hunan-barch a chymhelliant y dysgwyr. Gan weithio gyda’i gilydd, mae Coleg Caerdydd a’r Fro a Gyrfa Cymru wedi sefydlu partneriaeth gadarn a fydd yn parhau o’r sylfeini a sefydlwyd, gan helpu dysgwyr i chwarae rhan weithredol mewn dod yn ddinasyddion sy’n ymgysylltu’n llawn â Chymru ac economi Cymru.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Da iawn i’r tîm Gyrfaoedd a Syniadau! Yn CCAF rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleoedd gorau posib i’n dysgwyr ni dyfu a datblygu drwy brofiadau real ac nid dim ond realistig, ac mae ein Hyfforddwyr Gyrfa ni gyda’u harbenigedd eang mewn darparu cyngor a chefnogaeth, o wybodaeth hyd at brofiad gwaith i helpu dysgwyr i ddechrau sefydlu eu busnes eu hunain, yn parhau i wella’r hyn maen nhw’n ei gynnig.”